Riportio twyll ariannol yn cynnwys cardiau debyd neu gredyd
Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef o dwyll adnabyddiaeth a oedd yn cynnwys defnyddio cardiau plastig (megis cardiau debyd a chredyd), bancio ar lein, neu sieciau, dylech adrodd ar hynny'n uniongyrchol i'r sefydliadau ariannol perthnasol.
Nhw sy’n gyfrifol am ymchwilio a dilysu ymhellach ac, yn ôl y gofyn, am adrodd ynghylch gweithgaredd troseddol yn uniongyrchol wrth yr heddlu lle bydd yn cael ei gofnodi ac yr ystyrir ymchwilio iddo ymhellach. Dylid nodi mai dim ond i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon y mae'r broses hon yn berthnasol.
Cafodd y newidiadau ynghylch riportio twyll cardiau plastig, bancio ar lein a sieciau eu cyflwyno gan y Swyddfa Gartref ar 1 Ebrill 2007 ar ôl trafod gyda Chymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu a’r sector ariannol er mwyn lleihau’r fiwrocratiaeth ynghylch cofnodi twyll ac i'w gwneud yn haws riportio a dechrau ymchwilio i dwyll o’r fath.