Taclo Troseddau

Policemen

Gellir diffinio Troseddau Busnes, yn syml, fel 'troseddau yn erbyn busnesau' neu fel 'unrhyw drosedd sy'n effeithio ar sut y mae busnes yn gweithio'.

Mathau o Droseddau

Yn y wefan hon, mae mathau o droseddau busnes yn cael eu rhestru o dan yr is-benawdau canlynol:

  • e-Drosedd
  • troseddau eiddo
  • troseddau eiddo deallusol
  • troseddau nwyddau
  • twyll
  • ymddygiad gwrthgymdeithasol

Gallwch weld ymhob adran sut y gallai gwahanol fathau o droseddau effeithio ar eich busnes chi a dysgu sut i amddiffyn eich hunan rhagddyn nhw.


Parhad Busnes

Byddwch eisiau i’ch busnes dechrau gweithio fel arfer mor gyflym â phosibl ar ôl amhariad difrifol. Gelwir hyn yn gynnal parhad busnes.

Troseddau Eiddo Deallusol

Gall troseddau Eiddo Deallusol fod yn fusnes mawr, i lawer o gangiau troseddol, gall troseddau Eiddo Deallusol dalu ar ei ganfed am ond ychydig iawn o fuddsoddiad.

Troseddau Eiddo

Mae gan fusnesau ledled Cymru eiddo yn amrywio o ffermydd bach i siopau adrannol mawr ac o safleoedd adeiladu i swyddfeydd enfawr. Mae trosedd eiddo yn gategori o drosedd sy’n cynnwys byrgleriaeth, cynnau tân yn fwriadol, lladrata cerbydau modur a fandaliaeth i eiddo neu i fannau gwaith ehangach.

Troseddau Nwyddau

Troseddau nwyddau yw lladrata neu ddifrodi nwyddau a defnyddiau. Mae nwydd fel arfer yn golygu nwydd craidd neu gynnyrch amaethyddol sylfaenol y gellir ei brynu a’i werthu.

Twyll

Bydd busnesau wastad yn gorfod dygymod gyda’r bygythiad o dwyll. Yn cael cynnig prynu nwyddau ffug neu droseddwyr yn ceisio lladrata arian ac adnabyddiaeth drwy gael gafael ar fanylion banc yn dywyllodrus, mae’n rhaid bod yn wyliadwrus bob amser.

Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynnwys sbectrwm eang o droseddau sy’n cael eu diffinio fel gweithgaredd ymosodol, bygythiol neu ddinistriol sy'n niweidio neu'n dinistrio ansawdd bywyd person arall.