Parhad Busnes

Workplace office

Byddwch eisiau i’ch busnes dechrau gweithio fel arfer mor gyflym â phosibl ar ôl amhariad difrifol. Gelwir hyn yn gynnal parhad busnes.

Mae cynllun parhad busnes yn nodi’r risgiau y gallai eich busnes eu hwynebu a'r hyn y dylech chi ei wneud yn eu cylch. Fel arall, gallai eich busnes:

  • golli incwm am gyfnod hir
  • colli gwaith i gystadleuwyr
  • cael trafferthion gyda chyflenwyr
  • gweld ei enw da’n cael niwed
  • colli staff

Paratoi eich cynllun parhad busnes

Bydd cynllun effeithiol yn dangos sut y gallwch chi ddal ati gyda’ch prif weithgareddau busnes. Gallai hynny olygu symud i eiddo arall neu fod staff yn gweithio gartref. Bydd yn rhaid i chi:

  • Nodi’r prif weithgareddau eich busnes a’r staff sy’n gyfrifol amdanyn nhw.
  • Nodi’r risgiau mewnol ac allanol a allai arwain at amhariad mawr, megis eich rhwydwaith cyfrifiadurol yn diffodd yn ddirybudd neu mewn cyfnod o dywydd garw iawn.
  • Asesu effeithiau’r risgiau hyn.
  • Cymryd camau i leihau tebygolrwydd y risgiau hyn a’u heffeithiau.

Dylech ystyried hefyd:

  • Unrhyw gosbau ariannol, cyfreithiol neu reolaethol os na fyddwch yn gallu darparu’r gwasanaeth rydych wedi contractio i’w ddarparu.
  • Pa mor hir y gallai eich busnes ddal ati heb yr eitemau rydych yn eu defnyddio fel arfer, megis meddalwedd neu offer arbenigol.
  • Sut y byddech yn dygymod gydag amhariad mawr – efallai bod heb drydan am gyfnod hir neu ddifrod i’ch eiddo.

Unwaith y byddwch wedi paratoi’r cynllun, hyfforddwch eich staff fel eu bod yn gwybod beth i’w wneud. Adolygwch y cynllun yn rheolaidd i wneud yn siŵr ei fod yn dal yn effeithiol.

Problemau yswiriant

Mae’n rhaid i chi gael yswiriant yn erbyn colled a difrod yn codi o weithgareddau troseddol. Os gallwch ddangos eich bod yn cymryd problemau diogeledd o ddifrif, efallai y bydd eich cwmni yswiriant yn cynnig disgownt i chi ar eich premiwm.