Troseddau Eiddo

CCTV Cameras

Mae gan fusnesau ledled Cymru eiddo yn amrywio o ffermydd bach i siopau adrannol mawr ac o safleoedd adeiladu i swyddfeydd enfawr. Mae trosedd eiddo yn gategori o drosedd sy’n cynnwys byrgleriaeth, cynnau tân yn fwriadol, lladrata cerbydau modur a fandaliaeth i eiddo neu i fannau gwaith ehangach.

Mae rhestr isod o droseddau eiddo cyffredin. Cliciwch arnyn nhw i ddarllen rhagor ynghylch yr hyn a allai ddigwydd a sut y gallwch chi amddiffyn eich hunan.

  • Fandaliaeth
  • Lladrata cerbydau masnachol neu ohonyn nhw
  • Lladrata neu ddifrodi offer a pheiriannau
  • Troseddu Ffermio a Gwledig

Fandaliaeth

Diffinnir fandaliaeth fel difrodi’n fwriadol eiddo cyhoeddus a phreifat. Ar eiddo preifat, y ffurf fwyaf cyffredin o fandaliaeth yw torri ffenestri a graffiti. 

Lladrata cerbydau masnachol neu ohonyn nhw

Gyda chymaint o fusnesau'n defnyddio cerbydau masnachol, a llawer o staff yn defnyddio'r un cerbydau, mae’n gymharol hawdd lladrata a gwneud niwed i gerbydau masnachol. 

Lladrata neu ddifrodi offer a pheiriannau

Mae offer a pheiriannau’n cyfeirio at bethau megis y peiriannu sy’n cael eu defnyddio yn eich ffatri, cownteri arddangos mews siopau a cherbydau sy'n cael eu defnyddio yn y busnes gennych chi a'ch staff.

Troseddau Ffermio a Gwledig

Diffinnir troseddau gwledig fel lladrata offer, peiriannau neu dda byw o ffermydd neu droseddau megis lladrata neu fyrgleriaeth sy'n cael ei gofnodi ar ffermydd neu ar eiddo’n gysylltiedig â ffermydd.