Troseddau Eiddo Deallusol

Consultation with a computer

Gall troseddau Eiddo Deallusol fod yn fusnes mawr, i lawer o gangiau troseddol, gall troseddau Eiddo Deallusol dalu ar ei ganfed am ond ychydig iawn o fuddsoddiad. Mae cynnydd mewn technoleg wedi’i gwneud yn llawer haws i werthu nwyddau ffug, megis cyfryngau digidol, nwyddau ffasiwn, offer electronig a phethau eraill. Er efallai nad yw’n ymddangos fod unrhyw un yn dioddef o droseddau o’r fath, mae ansawdd gwael y nwyddau ffug yn gallu difetha enw da’r busnesau sy’n cynhyrchu’r rhai dilys. Mae lladrata ac amharu ar nod masnach yn golygu defnyddio, heb ganiatâd, ddefnyddiau sydd â hawlfraint yn ffotograffau, fideos, cerddoriaeth neu feddalwedd.

Mae rhestr isod o droseddau Eiddo Deallusol cyffredin. Cliciwch arnyn nhw i ddarllen rhagor ynghylch yr hyn a allai ddigwydd a sut y gallwch chi amddiffyn eich hunan.

  • Troseddau ffugio
  • Lladrata hawlfraint
  • Lladrad eiddo deallusol

Lladrata Hawlfraint

Lladrata, neu dramgwyddo, hawlfraint yw amharu ar hawlfraint unigolyn neu sefydliad. Mae’n golygu defnyddio, heb awdurdod, ddefnyddiau megis testun ysgrifenedig, ffotograffau, fideos, cerddoriaeth, meddalwedd a chynnyrch gwreiddiol eraill. Gyda dyfodiad y rhyngrwyd, a ffyrdd haws o rannu defnyddiau, daeth lladrata hawlfraint yn fwy cyffredin.

Troseddau Eiddo Deallusol

Gall Troseddau Eiddo Deallusol olygu nifer o wahanol dramgwyddiadau. Er enghraifft, wrth gomisiynu dylunwyr i adeiladu gwefan newydd, dylech sicrhau fod y cytundeb rhwng eich busnes a dylunydd y wefan yn ei gwneud yn glir mai eich busnes chi yw perchennog yr eiddo deallusol yn y cynnwys. Os na wneir hyn, dylunydd y wefan fydd perchennog cynnwys eich gwefan.

Troseddau Ffugio

Nwyddau ffug yw rhai sydd wedi'u cynhyrchu i ddynwared, fel y gellir eu gwerthu'n dwyllodrus fel rhai dilys. Er bod y rhan fwyaf o bobl yn ystyried nad oes neb yn dioddef wrth brynu nwyddau ffug, mae rhywun yn dioddef bob tro.