Lladrata Metelau

CCTV Cameras

Gall lladrata metelau gostio peth wmbredd o arian i ddiwydiant a busnesau. Er enghraifft, bu’n rhaid cau Pont Puddlers ym Merthyr Tudful ar ôl i wifrau copr gael eu lladrata oddi arni a chostiodd £12,000 i'w thrwsio. Dim ond £20 oedd yr amcangyfrif o werth sgrap y metel

Effeithiau

Nid effeithiau ariannol yn unig yw’r prif rai. Yn ogystal â’r gost ariannol o gael metel newydd yn lle’r metel a gafodd ei ladrata, gallai lladrad metel olygu y bydd yn rhaid i staff dreulio oriau’n trefnu'r gwaith adnewyddu. Mae cwmnïau rheilffordd yn dioddef yn enbyd o’r math hwn o drosedd; mae'n gallu achosi oedi i drenau, cymudwyr yn hwyr yn cyrraedd eu gwaith ac effeithiau domino hynny'n arwain at golli rhagor o oriau gwaith. 

Rhwystro

Gall busnesau wellau eu mesurau diogeledd gyda systemau teledu cylch cyfyng a larymau yn ogystal â defnyddio paent gwrth fandaliaid neu bigynnau metel rhag dringo waliau i amddiffyn lle mae metel i’w gael. Gellir torri unrhyw frigau sy’n cuddio lle mae metelau y gellid eu lladrata yn cael eu cadw i’w gwneud yn fwy gweladwy. Gall busnesau hefyd ddefnyddio hylif fforensig i farcio plwm ac, yr un pryd, osod arwyddion yn rhybuddio yn ei gylch i gadw darpar ladron draw.  

Riportio

Ffoniwch eich Heddlu lleol ar 101. Ond, mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro. 101 yw'r rhif i'w ffonio os, er enghraifft: 

  • Mae cerbyd wedi’i ladrata.
  • Mae eiddo wedi’i ddifrodi.
  • I gyflwyno gwybodaeth ynghylch trosedd arall.
  • Gellir defnyddio’r rhif i riportio digwyddiad nad yw'n argyfwng i unrhyw Heddlu yng Nghymru. Mae ffonio 101 o linellau tir a rhwydweithiau ffonau symudol yn costio 15 ceiniog yr alwad, ar unrhyw adeg o'r dydd a pha mor hir bynnag y byddwch ar y ffôn.

    Mewn argyfwng deialwch 999 bob tro. Mae hynny pan mae gofyn gweithredu ar unwaith, megis: 

  • bod trosedd yn y broses o gael ei gyflawni
  • mae rhywun gerllaw sy’n cael ei amau o drosedd 
  • mae bywyd rhywun mewn perygl
  • mae rhywun wedi’i anafu
  • mae trais yn cael ei ddefnyddio neu ei fygwth

Rhagor o wybodaeth/llawrlwytho