Lladrata Nwyddau a Defnyddiau

Alarm systems

Mae busnesau Cymru'n aml yn cadw amrywiaeth o nwyddau a defnyddiau'n amrywio o stoc a chyflenwadau i ddefnyddiau crai - y cyfan yn gallu denu ’troseddwyr. 

Effeithiau

Gallai lladrata nwyddau gael nifer o effeithiau ar eich busnes. Os bydd nwyddau crai yn cael eu lladrata o fusnesau, megis gyrr o wartheg, yna bydd hynny’n amharu ar y gallu i droi’r gwartheg yn gynnyrch y gellir ei werthu. Golyga hynny bod busnes y ffermwr yn dioddef ac yn arwain at golli arian. Byddai effeithiau hynny ar y gymuned yn golygu efallai na fydd cigyddion a siopau eraill yn yr ardal yn cael y cynnyrch y maen nhw ei angen i’w werthu. Golyga hynny golli arian hefyd, ac, ar y gwaethaf, efallai orfod rhoi'r gorau i fasnachu. 

Rhwystro

Gallai busnesau wella eu diogeledd gyda systemau teledu cylch cyfyng a larymau yn ogystal â thrwy orchuddio eu nwyddau. Os yw busnesau’n dibynnu ar dda byw, gellir marcio’r anifeiliaid yn y fath fodd fel eu bod yn hawdd eu hadnabod os byddan nhw'n mynd ar goll.  

Riportio

Ffoniwch eich Heddlu lleol ar 101. Ond, mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro. 101 yw'r rhif i'w ffonio os, er enghraifft: 

  • mae cerbyd wedi’i ladrata
  • mae eiddo wedi’i ddifrodi
  • i gyflwyno gwybodaeth ynghylch trosedd arall

Gellir defnyddio’r rhif i riportio digwyddiad nad yw'n argyfwng i unrhyw Heddlu yng Nghymru.  Mae ffonio 101 o linellau tir a rhwydweithiau ffonau symudol yn costio 15 ceiniog yr alwad, ar unrhyw adeg o'r dydd a pha mor hir bynnag y byddwch ar y ffôn. 

Mewn argyfwng deialwch 999 bob tro. Mae hynny pan mae gofyn gweithredu ar unwaith, megis: 

  • bod trosedd yn y broses o gael ei gyflawni
  • mae rhywun gerllaw sy’n cael ei amau o drosedd 
  • mae bywyd rhywun mewn perygl
  • mae rhywun wedi’i anafu
  • mae trais yn cael ei ddefnyddio neu ei fygwth

Rhagor o wybodaeth/llawr lwytho