Lladrata Pethau Gwerthfawr

Security card scan

Er bod llawer o’r troseddau a drafodir yn effeithio busnesau’n uniongyrchol, nid yw hynny’n digwydd bob tro yn achos lladrata pethau gwerthfawr.  Gallai lladrata pethau gwerthfawr gyfeirio at ladrata arian parod oddi wrth staff y busnes neu ddifrodi eiddo cwsmeriaid.

Effeithiau

Gallai hyn arwain at staff yn teimlo’n llai hyderus yn lle y maen nhw’n gweithio.  Os bydd cwsmeriaid yn clywed am ddigwyddiadau, gallai hynny ysigo eu hyder yn y busnes hwnnw. 

Rhwystro

Gallai digwyddiadau fel hyn olygu bod yn rhaid i fusnesau fuddsodd mewn loceri a mesurau eraill i wella diogelwch.  Efallai y byddai’n rhaid hefyd i fusnesau gyfyngu ar faint o gwsmeriaid sy'n cael dod ar eu heiddo a hyd yn oed drefnu i archwilio dillad staff i wneud yn siŵr mai dim ond eu heiddo eu hunain sydd ganddyn nhw.  

Riportio

Ffoniwch eich Heddlu lleol ar 101. Ond, mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro. 101 yw'r rhif i'w ffonio os, er enghraifft: 

  • mae cerbyd wedi’i ladrata
  • mae eiddo wedi’i ddifrodi
  • i gyflwyno gwybodaeth ynghylch trosedd arall

Gellir defnyddio’r rhif i riportio digwyddiad nad yw'n argyfwng i unrhyw Heddlu yng Nghymru.  Mae ffonio 101 o linellau tir a rhwydweithiau ffonau symudol yn costio 15 ceiniog yr alwad, ar unrhyw adeg o'r dydd a pha mor hir bynnag y byddwch ar y ffôn. 

Mewn argyfwng deialwch 999 bob tro. Mae hynny pan mae gofyn gweithredu ar unwaith, megis: 

  • bod trosedd yn y broses o gael ei gyflawni
  • mae rhywun gerllaw sy’n cael ei amau o drosedd 
  • mae bywyd rhywun mewn perygl
  • mae rhywun wedi’i anafu
  • mae trais yn cael ei ddefnyddio neu ei fygwth

Rhagor o wybodaeth//llawrlwytho