Twyll

Secure payment

Bydd busnesau wastad yn gorfod dygymod gyda’r bygythiad o dwyll. Yn cael cynnig prynu nwyddau ffug neu droseddwyr yn ceisio lladrata arian ac adnabyddiaeth drwy gael gafael ar fanylion banc yn dywyllodrus, mae’n rhaid bod yn wyliadwrus bob amser.

Mae rhestr o dwyllau cyffredin isod. Cliciwch arnyn nhw i ddarllen rhagor ynghylch yr hyn a allai ddigwydd a sut y gallwch chi amddiffyn eich hunan.

  • Anfonebau ffug
  • Dichell
  • e-Drosedd
  • Lladrata a chamliwio i gael llyfrau siec a chardiau credyd
  • Lladrata gan staff

Anfonebau ffug

Gall anfonebu fod yn dipyn o gur pen i fusnesau, sawl cwsmer, efallai, yn eu hanfonebu'r un pryd, a gall fod yn hynod o anodd cadw trefn ar y taliadau'n dod i mewn ac yn mynd allan. Yn ddiweddar, bu cynnydd mewn anfonebau ffug, gan fusnesau real a chan rai ffug.

Dichell

Gellir cyflawni twyll yn ddichellgar mewn nifer o ffyrdd, gyda chamliwio’n fwriadol i ennill mantais ariannol anghyfreithlon i'r troseddwyr eu hunain neu i eraill yn broblem enfawr.

Lladrata a chamliwio i gael llyfrau siec a chardiau credyd

Mae lladrata llyfrau sieciau a chardiau credyd yn golygu lladrata a thwyllo gan ddefnyddio cardiau credyd neu lyfrau siec fel ffynhonnell dywyllodrus o arian. Mae camliwio’n golygu gweithred dywyllodrus o honni bod yn rhywun arall er mwyn cael arian a nwyddau'n dywyllodrus.  

Lladrata gan staff

Mae busnesau’n dibynnu ar eu staff i sicrhau fod eu gwaith yn rhedeg yn esmwyth.  Mae’n rhaid i gyflogwyr ymddiried bron yn llwyr yn eu staff.

e-Drosedd

Yn gyffredinol, gweithgaredd troseddol yw e-Drosedd lle mai cyfrifiadur neu rwydwaith cyfrifiadurol yw'r ffynhonnell, teclyn, targed neu le'r drosedd.  Er gwaethaf y cyfeiriadau anorfod at ‘gyfrifiaduron’ a ‘gweithgaredd ar lein’, mae e-Drosedd hefyd yn cynnwys y cyfan o droseddau ‘traddodiadol’ – megis twyll, lladrad, blacmel, a ffugio dogfennau.