Anfonebau ffug

Invoice document

Gall anfonebu fod yn dipyn o gur pen i fusnesau, sawl cwsmer, efallai, yn eu hanfonebu'r un pryd, a gall fod yn hynod o anodd cadw trefn ar y taliadau'n dod i mewn ac yn mynd allan. Yn ddiweddar, bu cynnydd mewn anfonebau ffug, gan fusnesau real a chan rai ffug. 

Effeithiau

os nad yw busnesau’n dilysu ac yn cadarnhau o ble mae eu hanfonebau'n cael eu gyrru, mae'n bosibl y byddan nhw'n talu am wasanaeth nad ydyn nhw wedi'i gael, sy'n mynd i gostio arian. Os ydyn nhw wedi gwneud hynny ac yn ceisio cael yr arian yn ôl, bydd hynny’n costio mewn amser iddyn nhw. 

Rhwystro

Bydd busnesau sy'n tracio eu hanfonebau drwy ddefnyddio Rhifau Archeb unigryw yn gallu gweld a yw anfonebau’n ddilys ac yn gallu sicrhau fod y taliadau’n mynd i’r bobl gywir. Yr allwedd yw dilysu anfonebau’n briodol a gosod amodau caeth ar daliadau.  

Riportio

  • Dylid adrodd ynghylch troseddau twyllo yn erbyn busnesau yng Nghymru i Action Fraud, un ai ar lein; neu drwy ffonio 0300 123 2040
  • Action Fraud yw canolfan adrodd ar dwyll ar gyfer y DU gyfan lle gallwch adrodd ar dwyll os ydych wedi dioddef o dwyll. 
  • Mae Action Fraud yn bwynt cyswllt sengl ar gyfer gwybodaeth ynghylch twyll a throseddau ariannol ar y rhyngrwyd. Mae’r gwasanaeth yn cael ei redeg gan yr Awdurdod Twyll Cenedlaethol - asiantaeth y llywodraeth sy'n helpu i gydlynu'r frwydr yn erbyn twyll yn y DU. Mae Action Fraud yn gweithio gyda phartneriaid mewn gwaith gorfodi’r gyfraith - y Biwro Cudd-wybodaeth Twyll Cenedlaethol sy’n cael ei redeg gan Heddlu Dinas Llundain - i wneud yn siŵr fod eich adroddiadau ynghylch twyll yn cyrraedd y lle iawn. 
  • Pan fyddwch yn adrodd wrth Action Fraud byddwch yn cael rhif cyfeirnod trosedd yr heddlu. Bydd yr adroddiadau a dderbynnir yn cael eu hanfon at yr heddlu ac efallai y cysylltir â chi i gael rhagor o wybodaeth. Nid yw Action Fraud yn ymchwilio i achosion ac nid yw’n gallu rhoi gwybodaeth i chi ynghylch cynnydd eich achos. 

Rhagor o wybodaeth/llawrlwytho