e-Drosedd

Secure payment

Yn gyffredinol, gweithgaredd troseddol yw e-Drosedd lle mai cyfrifiadur neu rwydwaith cyfrifiadurol yw'r ffynhonnell, teclyn, targed neu le'r drosedd.  Er gwaethaf y cyfeiriadau anorfod at ‘gyfrifiaduron’ a ‘gweithgaredd ar lein’, mae e-Drosedd hefyd yn cynnwys y cyfan o droseddau ‘traddodiadol’ – megis twyll, lladrad, blacmel, a ffugio dogfennau. 

Effeithiau

Gall effeithiau e-Drosedd fod yn bellgyrhaeddol.  Os yw gwefan busnes yn cael ei hacio, efallai y bydd negeseuon maleisus yn cael eu hanfon at gwsmeriaid ac at gleientiaid ac yn gwneud difrod i berthynasau gwaith.  Os yw cyfrif banc busnes yn cael ei hacio, gallai manylion banc busnesau fod mewn perygl a gallai effaith hynny gyrraedd cwsmeriaid gwerthfawr.   

Rhwystro

I rwystro hacio mewnol, cyfyngwch ar y graddau y gall staff gyrraedd mannau sensitif y rhwydwaith cyfrifiadurol.  Gweithredwch bolisi diogeleddd Technoleg Gwybodaeth trylwyr.  Gofalwch fod meddalwedd gwrth firws a wal dân ar eich cyfrifiaduron.  Gwnewch yn siwr fod cyfrineiriau’n cael eu cadw’n ddiogel ac na ellir eu dyfalu’n hawdd.

Rhagor o wybodaeth/llawrlwytho

  • Get Safe Online
  • Mae CyberAlarm yr Heddlu yn adnodd am ddim i helpu’ch busnes i ddeall a monitro gweithgarwch seiber maleisus. Mae’n gweithredu fel “Camera CCTV” sy’n monitro traffig a welir gan gysylltiad eich busnes â’r rhyngrwyd. Bydd yn canfod a darparu adroddiadau rheolaidd am weithgarwch maleisus amheus, gan leihau pa mor agored yw’ch busnes i niwed.