Lladrata gan staff

Security card scan

Mae busnesau’n dibynnu ar eu staff i sicrhau fod eu gwaith yn rhedeg yn esmwyth.  Mae’n rhaid i gyflogwyr ymddiried bron yn llwyr yn eu staff.   Ond, yn naturiol, mae yna adegau pan mae staff yn cymryd mantais ar fusnesau, stoc yn mynd ar goll, efallai arian yn cael ei ladrata. 

Effeithiau

os yw staff yn lladrata stoc a nwyddau, mae hynny’n effeithio ar faint o arian y mae’r busnes yn ei wneud.  Mae gorfod ail-archebu stoc yn arwain yn anorfod at wario rhagor o arian.  Mae’n bosibl iawn mai’r effaith fwyaf fydd erydu ymddiriedaeth a pherthynas staff â’r busnes.  Bydd gorfod monitro ac ymchwilio i staff yn bwyta i oriau gwaith y rheolwyr.  

Rhwystro

Gall mynnu cael geirda trwyadl ar gyfer staff, hen a newydd, fod o help i sicrhau nad oes gan staff hanes o ladrata.  Bydd cynyddu mesurau diogeleddd, megis archwilio dillad staff a chyfyngu ar yr hyn y gellir ei wneud mewn ystafelloedd staff, a mannau eraill ar gyfer staff, fod o help i wella diogeleddd. 

Riportio 

Ffoniwch eich Heddlu lleol ar 101. Ond, mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro. 101 yw'r rhif i'w ffonio os, er enghraifft: 

  • mae cerbyd wedi’i ladrata
  • mae eiddo wedi’i ddifrodi
  • i gyflwyno gwybodaeth ynghylch trosedd arall

Gellir defnyddio’r rhif i riportio digwyddiad nad yw'n argyfwng i unrhyw Heddlu yng Nghymru.  Mae ffonio 101 o linellau tir a rhywdweithau ffonau symudol yn costio 15 ceiniog yr alwad, ar unrhyw adeg o'r dydd a pha mor hir bynnag y byddwch ar y ffôn. 

Mewn argyfwng deialwch 999 bob tro. Mae hynny pan mae gofyn gweithredu ar unwaith, megis: 

  • bod trosedd yn y broses o gael ei gyflawni
  • mae rhywun gerllaw sy’n cael ei amau o drosedd 
  • mae bywyd rhywun mewn perygl
  • mae rhywun wedi’i anafu
  • mae trais yn cael ei ddefnyddio neu ei fygwth

Rhagor o wybodaeth/llawrlwytho