Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol

Policemen

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynnwys sbectrwm eang o droseddau sy’n cael eu diffinio fel gweithgaredd ymosodol, bygythiol neu ddinistriol sy'n niweidio neu'n dinistrio ansawdd bywyd person arall. Gellir hefyd ei ddiffinio’n gyfreithiol fel rhywun yn ymddwyn mewn modd sydd wedi, neu a oedd yn debygol o achosi aflonyddwch, dychryn neu drallod i un neu ragor o bobl o gartref gwahanol i’r person a oedd yn ei achosi.

Mae rhestr isod o’r troseddau ymddygiad gwrth gymdeithasol mwyaf cyffredin. Cliciwch arnyn nhw i ddarllen rhagor ynghylch yr hyn a allai ddigwydd a sut y gallwch chi amddiffyn eich hunan.

  • Lladrata o siopau
  • Ymddygiad bygythiol.
  • Troseddau ynghylch cyffuriau

Lladrata o siopau

Fe’i disgrifir fel gweithred droseddol o ladrata nwyddau o siopau wrth esgus bod yn gwsmer. Dangosodd ffigurau a gafodd eu rhyddhau yn 2010 fod lladrata o siopau yn costio mwy na £4.4 biliwn i siopau yn y DU mewn blwyddyn, swm enfawr o incwm sy'n cael ei golli ac o stoc y mae'n rhaid ei adnewyddu. 

Troseddau Ynghylch Cyffuriau

Pan ddaw ton o gyffuriau i ardal, daw hefyd, yn aml, don o  droseddau ynghylch cyffuriau. Gallai hynny fod yn lladrata o siopau, wrth i'r rhai sy'n gaeth i gyffuriau ladrata i dalu amdanyn nhw.

Ymddygiad Bygythiol

Y diffiniad o ymddygiad bygythiol yw ymddygiad bwriadol a fyddai'n achosi i berson o gyneddfau normal fod mewn ofn o niwed neu ddolur.