Lladrata o siopau

Stealing items

Fe’i disgrifir fel gweithred droseddol o ladrata nwyddau o siopau wrth esgus bod yn gwsmer. Dangosodd ffigurau a gafodd eu rhyddhau yn 2010 fod lladrata o siopau yn costio mwy na £4.4 biliwn i siopau yn y DU mewn blwyddyn, swm enfawr o incwm sy'n cael ei golli ac o stoc y mae'n rhaid ei adnewyddu. 

Effeithiau

Nid ariannol yn unig yw'r effeithiau, gall lladrata o siopau effeithio ar staff hefyd. Os yw staff yn gweithio pan mae pethau’n cael eu lladrata, efallai na fyddan nhw, bellach, yn teimlo’n ddiogel wrth weithio yn y siop. Gallai hynny hefyd arwain at siopwyr yn colli ymddiriedaeth yn y siop. Mae lladrata o siopau’n dangos diffyg gwirioneddol mewn diogelwch a diogeleddd mewn siopau sy’n arwain at siopwyr yn colli ymddiriedaeth yn y siop. 

Rhwystro

Efallai y bydd yn rhaid i siopau fuddsoddi mewn swyddogion diogeleddd a gwella mesurau diogeleddd megis tagiau electronig a theledu cylch cyfyng i geisio rhwystro lladrata. Dylai siopau ystyried ymuno â’r partneriaethau diogelwch lleol sydd mewn sawl ardal siopa. Dylai busnesau hefyd ystyried dysgu cymryd troseddu o ddifrif, weithiau gall siopau ddiystyru colledion yn codi o ladrata sy’n golygu nad yw’n cael ei weld yn broblem fawr. Ond fe ddylai fod.  

Riportio

Ffoniwch eich Heddlu lleol ar 101. Ond, mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro. 101 yw'r rhif i'w ffonio os, er enghraifft: 

  • mae cerbyd wedi’i ladrata
  • mae eiddo wedi’i ddifrodi
  • i gyflwyno gwybodaeth ynghylch trosedd arall

Gellir defnyddio’r rhif i riportio digwyddiad nad yw'n argyfwng i unrhyw Heddlu yng Nghymru. Mae ffonio 101 o linellau tir a rhywdweithau ffonau symudol yn costio 15 ceiniog yr alwad, ar unrhyw adeg o'r dydd a pha mor hir bynnag y byddwch ar y ffôn. 

Mewn argyfwng deialwch 999 bob tro. Mae hynny pan mae gofyn gweithredu ar unwaith, megis: 

  • bod trosedd yn y broses o gael ei gyflawni
  • mae rhywun gerllaw sy’n cael ei amau o drosedd 
  • mae bywyd rhywun mewn perygl
  • mae rhywun wedi’i anafu
  • mae trais yn cael ei ddefnyddio neu ei fygwth

Rhagor o wybodaeth/llawrlwytho