Troseddau Ynghylch Cyffuriau

Policemen

Pan ddaw ton o gyffuriau i ardal, daw hefyd, yn aml, don o  droseddau ynghylch cyffuriau. Gallai hynny fod yn lladrata o siopau, wrth i'r rhai sy'n gaeth i gyffuriau ladrata i dalu amdanyn nhw. Gallai rhai sy’n gaeth hefyd dyrru i ambell i eiddo i brynu a gwerthu a chymryd cyffuriau gan beri niwsans gyda cherddoriaeth uchel, bygwth trigolion cyfagos a niweidio eiddo. 

Effeithiau

Mae'r troseddau hyn yn gallu dinistrio hyder trigolion yn eu hardaloedd, dydyn nhw ddim yn awyddus i fynd i fannau sydd i'w gweld wedi'u heffeithio gan y fath droseddau. Gall troseddwyr hefyd gael eu denu i ardaloedd oedd ond ag ychydig o droseddu o’r blaen; os yw rhai pobl yn amau fod cyffuriau mewn ardal, fe fyddan nhw’n dod i chwilio amdanyn nhw. Bydd yr elw o werthu cyffuriau’n cael ei ddefnyddio’n aml i ariannu troseddau eraill. 

Rhwystro 

Ni ddylid goddef dim ar y fath droseddau. Os clywch chi sôn fod troseddau cyffuriau yn cael eu cyflawni yn eich ardal, adroddwch wrth yr heddlu ar unwaith a sicrhewch eu bod yn gweithredu ynghylch y troseddau. 

Riportio

Ffoniwch eich Heddlu lleol ar 101. Ond, mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro. 101 yw'r rhif i'w ffonio os, er enghraifft: 

  • Mae cerbyd wedi’i ladrata
  • Mae eiddo wedi’i ddifrodi
  • I gyflwyno gwybodaeth ynghylch trosedd arall

Gellir defnyddio’r rhif i riportio digwyddiad nad yw'n argyfwng i unrhyw Heddlu yng Nghymru. Mae ffonio 101 o linellau tir a rhywdweithau ffonau symudol yn costio 15 ceiniog yr alwad, ar unrhyw adeg o'r dydd a pha mor hir bynnag y byddwch ar y ffôn. 

Mewn argyfwng deialwch 999 bob tro. Mae hynny pan mae gofyn gweithredu ar unwaith, megis: 

  • Bod trosedd yn y broses o gael ei gyflawni
  • Mae rhywun gerllaw sy’n cael ei amau o drosedd 
  • Mae bywyd rhywun mewn perygl
  • Mae rhywun wedi’i anafu
  • Mae trais yn cael ei ddefnyddio neu ei fygwth

Rhagor o wybodaeth/llawrlwytho