Ymddygiad Bygythiol

Youths

Y diffiniad o ymddygiad bygythiol yw ymddygiad bwriadol a fyddai'n achosi i berson o gyneddfau normal fod mewn ofn o niwed neu ddolur.  

Effeithiau

Gall ymddygiad bygythiol yn y gweithle ysigo hyder staff.  Os bydd yna bobl yn loetran y tu allan i fan gwaith, yn bygwth staff a chwsmeriaid, bydd pobl yn gyndyn o ymweld â'r busnes a bydd yn anodd denu busnesau newydd os yw'r broblem yn dal i fodoli.  Gall staff hefyd fod yn euog o ymddygiad bygythiol,  yn bwlio cyd aelodau o staff neu'n bygwth cwsmeriaid.  

Rhwystro 

ni ddylech oddef pobl yn loetran y tu allan i'ch eiddo a bygwth staff.  Galwch yr heddlu gynted â bo modd i gael gwared ohonyn nhw.  Os yw cwsmeriaid yn bygwth staff y tu fewn i’r eiddo, gwaharddwch nhw a sicrhau eich bod yn cadw at y gwaharddiad.  Os yw rhai aelodau o staff yn amharu ar rai eraill, ymchwiliwch i’r broblem ar unwaith a gwnewch yn siwr eich bod yn delio ar unwaith ac yn gadarn â’r aelodau hynny o staff.    

Riportio

Ffoniwch eich Heddlu lleol ar 101. Ond, mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro. 101 yw'r rhif i'w ffonio os, er enghraifft: 

  • mae cerbyd wedi’i ladrata
  • mae eiddo wedi’i ddifrodi
  • i gyflwyno gwybodaeth ynghylch trosedd arall

Gellir defnyddio’r rhif i riportio digwyddiad nad yw'n argyfwng i unrhyw Heddlu yng Nghymru.  Mae ffonio 101 o linellau tir a rhywdweithau ffonau symudol yn costio 15 ceiniog yr alwad, ar unrhyw adeg o'r dydd a pha mor hir bynnag y byddwch ar y ffôn. 

Mewn argyfwng deialwch 999 bob tro. Mae hynny pan mae gofyn gweithredu ar unwaith, megis: 

  • bod trosedd yn y broses o gael ei gyflawni
  • mae rhywun gerllaw sy’n cael ei amau o drosedd 
  • mae bywyd rhywun mewn perygl
  • mae rhywun wedi’i anafu
  • mae trais yn cael ei ddefnyddio neu ei fygwth

Rhagor o wybodaeth/llawrlwytho