Cadw eich cofnod yn gyfoes
Mae'n bwysig diweddaru eich cofnod yn y Cyfeiriadur er mwyn adlewyrchu unrhyw newidiadau sy'n digwydd o fewn y busnes.
Rheolau archifo'r Cyfeiriadur Busnes
Er mwyn sicrhau bod Cyfeiriadur Busnesau Cymru yn cael ei gadw'n gyfoes, rydym wedi cyflwyno'r rheol ganlynol ar gyfer archifo:
- bydd cofnod Cyfeiriadur Busnes yn cael ei archifo os nad yw perchennog y cofnod wedi mewngofnodi i’w gyfrif ‘SOC’ am gyfnod o 16 mis
- unwaith y bydd cofnod wedi’i archifo, bydd yn rhaid i berchennog y cofnod fewngofnodi i’w gyfrif ‘SOC’ ac ailgyhoeddi’r cofnod drwy glicio ‘cyhoeddi’ wrth y cofnod busnes
Hysbysiadau archifo
Byddwn yn anfon hysbysiadau i berchennog y cofnod fel hyn:
- ar ôl 9 mis o anweithgarwch
- ar ôl 15 mis o anweithgarwch
Bydd eich cyfrif wedyn yn cael ei analluogi ar ôl 16 mis o anweithgarwch.