BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datgomisiynu'r Cyfeiriadur Busnes

Different job roles

Ar ôl cryn ystyried a gwerthuso, rydym wedi penderfynu dod â’r gwasanaeth Cyfeiriadur Busnes i ben. Nid dewis hawdd oedd gwneud hyn, ond roedd yn angenrheidiol wrth i ni barhau i ganolbwyntio ar gynnig y profiad gorau posibl i’n defnyddwyr.

Ni fydd y Cyfeiriadur Busnes ar gael ar ôl 15 Gorffennaf 2024, a bydd y rhestriadau sydd arno ar hyn o bryd yn cael eu dileu. 

Gallwch ddefnyddio GwerthwchiGymru yn ei le - mae’n rhan graidd o wasanaeth Busnes Cymru ac yn galluogi busnesau i ddarparu nwyddau, gwaith neu wasanaethau i’r sector cyhoeddus, un ai trwy gontractau uniongyrchol neu trwy ddod yn is-gontractwr.

Mae'r gwasanaeth canfod cyflenwyr ar wefan GwerthwchiGymru yn gweithio fel cyfeiriadur o gyflenwyr ac mae’n ffordd i brynwyr ddod o hyd i werthwyr sydd â chontractau byw; mae hefyd yn rhoi cyfle i werthwyr hysbysebu eu busnes, gan gynnig gwybodaeth fanwl am y nwyddau a'r gwasanaethau a gynigir. 

Yn ogystal â chaniatáu i brynwyr ddod o hyd i chi, gallwch hefyd ddefnyddio’r adran Dod o Hyd i Gontractau er mwyn chwilio am gyfleoedd tendro a restrir gan brynwyr. 

Mae rhagor o wybodaeth i’w chael yma: GwerthwchiGymru - gwerthu i'r sector cyhoeddus | Busnes Cymru (llyw.cymru) 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y newid hwn, cysylltwch â Llinell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn y Gymraeg

Am fwy o wybodaeth am y cymorth rydym yn ei gynnig, ewch i Hafan | Busnes Cymru (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.