Cwestiynau Cyffredin

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio creu sector preifat cryf a chadwyn gyflenwi amrywiol i gefnogi economi sy'n tyfu yng Nghymru. Cafodd Cyfeiriadur Busnesau Cymru ei greu i helpu i gyrraedd y nod hwn. Rydym yn gwahodd busnesau i hysbysebu yn Nghyfeiriadur Busnesau Cymru i hyrwyddo ui nwyddau, eu gwasanaethau a'u manylion i fusnesau eraill ac i gwsmeriaid. Gall defnyddwyr y cyfeiriadur chwilio'n gyflym am fusnesau yng Nghymru yn ôl ei enw, neu wneud chwiliad uwch drwy ddefnyddio cyfuniad o sector, is-sector, rhanbarth neu god post. Dim ond yn ddiweddar y cafodd y cyfeiriadur ei lansio a chyfran fechan iawn o fusnesau Cymru sydd ynddo. Bydd maint y cyfeiriadur, a'r defnydd ohono, yn tyfu wrth inni annog mwy o fusnesau i ymuno.

Cliciwch yma i gwblhau'r broses o restru eich busnes, os gwelwch yn dda.

Cliciwch yma i ddiweddaru eich cofnod, os gwelwch yn dda.

a. Ga i gofnod os yw fy musnes yn gweithredu y tu allan i Gymru?
    Na, dim ond ar gyfer busnesau yng Nghymru y mae'r cyfeiriadur.
b. Ydi pob math yn gymwys?
    Ydi, ond rydym yn gwirio i sicrhau bod pob cais yn bodloni holl delerau ac amodau'r cyfeiriadur. Cliciwch yma i ddarllen holl delerau ac amodau'r wefan.

a. Sut i gael cymorth i gwblhau a chynnal fy nghofnod yn y cyfeiriadur?
    Cysylltwch â ni drwy glicio yma.
b. Os oes gennyf broblem gyda chofnod o fusnes arall, beth dylwn ei wneud?
    Cysylltwch â ni drwy glicio yma.
c. Mae fy musnes yn gweithredu mewn mwy nag un sector, sut gallaf ddangos hyn?
    Yng ngham 2 (rhagor o wybodaeth) o gofnodi eich busnes, gallwch ychwanegu sectorau eraill ar gyfer eich busnes.
ch. Pa sector / is-sector / adran ddylwn i ei ddewis ar gyfer fy musnes?
    Mae'n bwysig dewis y sector mwyaf priodol er mwyn sicrhau eich bod yn hyrwyddo eich hun orau yn y cyfeiriadur.

a. Gyda phwy ddylwn i gysylltu os ydw i’n anghofio enw defnyddiwr a chyfrinair fy nghyfrif ‘SOC’?
    Cysylltwch â ni drwy ffonio’r llinell gymorth ar 03000 6 03000. Y tu allan i oriau, defnyddiwch y ffurflen cysylltu â ni.
b. Beth i'w wneud os nad wyf yn gallu agor fy nghofnod yn y cyfeiriadur busnes?
    Cysylltwch â ni drwy glicio yma.