Hysbysiad Preifatrwydd – Cyfeiriadur Busnesau Cymru

Cafodd yr hysbysiad hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 27 Ebrill 2018.

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Busnes Cymru ac yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, rydym wedi llunio Hysbysiad Preifatrwydd sy’n esbonio pam rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn sicrhau y caiff eich data personol eu prosesu’n deg ac yn gyfreithlon, ac mewn ffordd dryloyw.

Cymerwch funud i ymgyfarwyddo â’n harferion preifatrwydd.

  1. Pam rydym yn casglu ac yn prosesu’r data sy’n cael eu casglu

Llywodraeth Cymru fydd Rheolydd Data unrhyw ddata personol rydych chi’n eu darparu ar ffurflen gofrestru Cyfeiriadur Busnesau Cymru. Er mwyn hyrwyddo eich busnes, caiff yr wybodaeth ei chyhoeddi drwy’r wefan ac efallai y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ei defnyddio i ddethol busnesau perthnasol ar gyfer prosiectau mawr o ran cyfleoedd y gadwyn gyflenwi.

  1. Pwy fydd yn gallu gweld eich data: 
  • Bydd yr holl wybodaeth gofrestru ar gael yn gyhoeddus ar y wefan.   
  1. Am ba mor hir caiff eich manylion eu cadw

Caiff eich manylion eu cadw ar Gyfeiriadur Busnesau Cymru nes i chi ofyn i ni eu tynnu drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt isod neu fewngofnodi i’r cyfeiriadur busnesau a’u tynnu eich hun.

Bydd y system yn archifo cyfrifon ar ôl 16 mis o fod yn segur. Caiff negeseuon e-bost atgoffa eu hanfon.

9 mis -> e-bost cyntaf yn atgoffa am gyfrif segur

15 mis -> ail e-bost yn atgoffa am gyfrif segur

16 mis -> archifo’r cyfrif; pan fo’r cyfrif yn yr archif, ni fydd eich manylion i’w gweld ar y wefan.

Caiff y cyfrif ei ddileu ar ôl 2 flynedd.

  1. Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi hawl i wneud y canlynol:

  • gweld y data personol mae Llywodraeth Cymru yn eu dal amdanoch chi;
  • mynnu ein bod yn cywiro unrhyw wybodaeth anghywir yn y data hynny;
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu data (mewn rhai amgylchiadau);
  • ‘dileu’ eich data (mewn rhai amgylchiadau);
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

 

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

 

Cyswllt Cwsmeriaid

Wycliffe House

Water Lane

Wilmslow

Swydd Gaer

SK9 5AF

 

Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Website: www.ico.org.uk

 

I gael cymorth gydag unrhyw o’r hawliau uchod, cysylltwch â Llinell Gymorth Busnes Cymru drwy ffonio 03000 6 03000 neu ddefnyddio'r ffurflen cysylltu â ni ar  https://businesswales.gov.wales/cy/cysylltwch-a-ni.

 

  1. Eich Gwybodaeth chi a'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth

 

O dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, gall y cyhoedd ofyn am gael gweld gwybodaeth sy’n cael ei dal gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gall yr wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni fod yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o’r cyhoedd. Byddem yn cysylltu â chi i gael eich barn cyn ymateb i gais o'r fath.

 

  1. Newidiadau i’r polisi hwn

 

Caiff Llywodraeth Cymru newid y polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Caiff y newidiadau eu cyhoeddi yma a byddant yn dod i rym ar unwaith. Os bydd y polisi hwn yn newid, byddwn yn cysylltu â chi ar y cyfeiriad e-bost sydd wedi’i nodi yn eich cyfrif er mwyn caniatáu i chi adolygu’r fersiwn newydd.

 

I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth

 

Cyfeiriad post:

Y Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru

Parc Cathays

CAERDYDD

CF10 3NQ

 

Cyfeiriad e-bost: dataprotectionofficer@llyw.cymru