Manylion y busnes

Disgrifiad o'r busnes (Cymraeg)
Sefydlwyd Anelu gan Stephen Jones gyda’r nod o ddarparu gweithgareddau dwyieithog awyr agored o safon ar draws Eryri ond hefyd rhannau eraill o’r DU yn yr haf a’r gaeaf.

Gyda dros 35 mlynedd o brofiad yn yr awyr agored, mae'n dod â dyfnder gwybodaeth ac amrywiaeth o sgiliau hyfforddi i bob gweithgaredd o gyrsiau mynydd i teithiau ysgolion a sesiynau gwyllt grefft.

Mae’n Arweinydd Mynydd Haf a Gaeaf cymwysedig, yn Hyfforddwr Gwyllt Grefft ac yn Hyfforddwr Dringo Creigiau, yn aelod o’r Mountain Training Association a Mountaineering Scotland. Mae'n dal y Wobr Aur ar gyfer Cynllun Llysgenhadon Eryri.

Mae Stephen yn weithgar wrth gynnal a gwella ei sylfaen sgiliau sy'n cynnwys datblygiad personol a sicrhau ei fod yn aros yn ymwybodol o arfer gorau yn y diwydiant awyr agored, syniadau newydd a diweddariadau.

Mae ein staff llawrydd i gyd yn adnabyddus yn bersonol i Stephen, maent yn byw mewn gwahanol rannau o Eryri a Gogledd Cymru, yn brofiadol, yn gymwysedig, wedi'u hyswirio ac mae ganddynt gymhwyster Cymorth Cyntaf.

Mae rhai hefyd yn aelodau o wahanol Dimau Achub Mynydd yng Ngogledd Cymru, yn meddu ar gymwysterau perthnasol ychwanegol ac mae gan bob un ohonynt ddiddordeb gweithgar yn yr awyr agored.

Maent hefyd yn rhannu gweledigaeth y cwmni felly waeth pwy sy'n arwain eich gweithgaredd byddwch yn derbyn yr un safon uchel o ofal cwsmer a darpariaeth.

Rydym yn ddarparwr awdurdodedig o dan yr Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur (AALA), sy’n ein galluogi i gynnig gweithgareddau anturus i rai dan 18 oed gan gynnwys ysgolion, grwpiau ieuenctid, grwpiau sgowtiaid a theuluoedd.

Mae enw ein cwmni yn ddwyieithog - Anelu yw'r fersiwn Gymraeg wedi'i chyfuno â'r Saesneg: Aim Higher.

Fel cwmni lleol sy’n gweithio yng Ngogledd Cymru, mae ein holl staff yn lleol ac yn ddwyieithog sy’n dangos ein parodrwydd i fuddsoddi mewn pobl leol sydd yn eu tro yn cyfrannu at eu cymunedau lleol.

Rydym yn angerddol ac rydym i gyd yn teimlo'n gryf am ddarparu profiadau o safon i bobl ac yn credu y dylai’r awyr agored gynnig cyfleoedd i bawb tra’n parchu’r amgylchedd, cymunedau lleol a’r ardaloedd hardd yr ydym yn byw ac yn gweithio ynddynt!

Trosiant y busnes
Llai na 250k
Nifer y gweithwyr
1-5
Welsh speaking

Lleoliad y Gangen  - Gwynedd

Enw cyswllt
Stephen Jones
Swydd y person cyswllt
Owner
Cyfeiriad

1 Hafoty
Tregarth
Bangor
LL57 4NT
Y Deyrnas Unedig

Ffôn
07877902624
E-bost y person cyswllt
E-bost y busnes
Faint o bobl a gyflogir gan eich cangen?
1-5
Beth oedd trosiant y gangen yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf?
Llai nai £250k
Pa fath o weithrediadau sydd gan eich cwmni yng Nghymru?
Gwasanaethau
Ydych chi'n allforio?
Nac ydwyf
Pa rai o’r termau canlynol, os o gwbl, y byddech chi'n eu defnyddio i ddisgrifio eich sefydliad? Ticiwch bob un sy'n berthnasol
Dim un o’r uchod

Twristiaeth

Math o Sector
Twristiaeth
Is-sectorau / Adrannau
Cyfleuster Chwaraeon