Galwad ar fusnesau yn Ne-ddwyrain Cymru i lunio’r cymorth y mae arnynt ei angen ar gyfer tyfu yn y dyfodol
Mae Cyngor Busnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cysylltu â busnesau i bennu’r gwasanaethau y mae arnynt eu heisiau ar gyfer tyfu yn y dyfodol. Mae bwrdd y Cyngor Busnes yn gyfrifol am roi llais i anghenion busnesau, gan nodi blaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau cymorth presennol a chynllunio rhaglenni cymorth y dyfodol, gan sicrhau bod llais busnesau wrth graidd strategaeth a phroses llunio penderfyniadau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Ac yntau wedi’i ymrwymo i bennu a hwyluso modd o gael...