Cronfa Adferiad Diwylliannol Cymru yn agor i ymgeiswyr newydd
Cadarnhaodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, fod trydydd rownd Cronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru yn agor ar gyfer ceisiadau heddiw, ac y tro hwn bydd busnesau a sefydliadau nad ydynt wedi derbyn cymorth o'r blaen o dan y gronfa yn gymwys i wneud cais. Heddiw, gall ymgeiswyr newydd wneud cais ar wefan Busnes Cymru, lle mae rhagor o fanylion a ffurflenni cais ar gael. Bydd angen dychwelyd ceisiadau erbyn dydd Gwener 11...