Sioe Deithiol Sefydliad Technoleg Awyrofod, Cymru – Hedfan Cynaliadwy
Fel rhan o ymgysylltu rhanbarthol y Sefydliad Technoleg Awyrofod (ATI) ymunwch â ni am ddiwrnod i drafod dyfodol awyrofod yng Nghymru. Mae’r Sefydliad Technoleg Awyrofod yn cydweithio â phartneriaid yng Nghymru er mwyn cynnig cyfle i gwmnïau ymgysylltu’n uniongyrchol â thîm ATI a dysgu mwy am strategaethau’r DU ar gyfer technoleg a phortffolio, casgliadau prosiect FlyZero a chyfleoedd ar gyfer cydweithio yn y dyfodol. Bydd cyfle i’r mynychwyr hefyd drefnu cyfarfod anffurfiol gydag ATI yn...