news and blogs Archives
1031 canlyniadau
Mae GwerthwchiGymru yn wasanaeth arlein sy’n helpu busnesau i hyrwyddo eu gwasanaethau a dod o hyd i gyfleoedd i sicrhau contractau gyda’r sector cyhoeddus drwy Gymru. Bob blwyddyn, caiff gwerth biliynau o bunnoedd o gontractau ar gyfer nwyddau a gwasanaethau sector cyhoeddus eu hysbysebu drwy GwerthwchiGymru. Cynigir y contractau hyn gan ystod eang o gyrff sy’n cael eu hariannu’n gyhoeddus yn cynnwys: Llywodraeth leol Awdurdodau lleol Ymddiriedolaethau GIG Colegau a phrifysgolion Os mai busnes bach...
Mae Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn rhoi cyfle anhygoel i chi uwchsgilio ac uwchraddio eich busnes a mireinio, datblygu a lansio eich cynnyrch i’w farchnata a sicrhau contract gwaith! Os ydych chi’n entrepreneur, yn gwmni newydd, neu’n gwmni sy’n uwchraddio gyda; chynnyrch neu gynnyrch ar y camau cynnar, y gellir ei ddatblygu i wella’r profiad i deithwyr Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, rydym yn credu y byddai’r rhaglen yn gweddu’n dda i chi. Gallwch wneud hyn mewn dim...
Ydy’ch busnes bach yn mewnforio neu’n allforio gyda’r UE? O 1 Ionawr 2022 ymlaen, os ydych chi’n symud nwyddau rhwng y DU a’r UE, bydd angen i chi wneud datganiadau tollau. Bydd angen cymorth ar lawer o fusnesau bach yn ystod y cyfnod hwn o newid, felly mae Enterprise Nation wedi lansio Canolfan Fasnach Ryngwladol ar y cyd â Deloitte er mwyn helpu busnesau bach i fasnachu’n fwy effeithiol ac effeithlon, gan ddod o hyd...
Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i glywed eich barn am gynigion i ddiwygio'r system rheoli datblygu a pholisi cynllunio yng Nghymru er mwyn helpu awdurdodau cynllunio lleol i reoli ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr. Daw'r ymgynghoriad i ben ar 22 Chwefror 2022. Am ragor o wybodaeth ewch i Deddfwriaeth a pholisi cynllunio ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr | LLYW.CYMRU
Mae mis Rhagfyr wastad yn gyfnod prysur i lawer o gwmnïau wrth iddynt ffeilio cyfrifon gyda Thŷ’r Cwmnïau cyn diwedd y mis. Gan fod Tŷ’r Cwmnïau yn parhau i ddilyn canllawiau Llywodraeth y DU ar gyfer gweithio'n ddiogel yn ystod y coronafeirws (COVID-19), fe allai hyn olygu ei bod yn cymryd mwy o amser nag arfer i brosesu dogfennau papur a anfonir drwy’r post. Mae eu gwasanaethau ar-lein ar gael 24 awr y dydd, 7...
Mewn partneriaeth â Hubbub, mae Partneriaeth John Lewis yn lansio cronfa gwerth £1 miliwn i gefnogi syniadau chwyldroadol ac arloesol a all gyflymu’r pontio tuag at economi fwy cylchol. O ailystyried gwastraff gyda chynhyrchion neu ddeunyddiau newydd i ganfod ffyrdd creadigol o newid meddylfryd defnyddwyr i ddatblygu modelau busnes a gwasanaethau newydd - byddai’r Her yn hoffi clywed gennych chi. Bydd y gronfa yn darparu grantiau o rhwng £150,000 a £300,000. Os ydych chi am...
Nod lansio gweithgarwch diweddaraf ymgyrch Diogelu Cymru Llywodraeth Cymru, heddiw (ddydd Llun 6 Rhagfyr), yw ‘torri’r trosglwyddiad’ er mwyn helpu i atal COVID-19 rhag lledaenu. Bydd hysbysebion ar y teledu a’r radio, yn y wasg ac mewn mannau cyhoeddus, yn ddigidol ac ar y cyfryngau cymdeithasol am y pum wythnos nesaf, er mwyn annog pobl i barhau i ddilyn y mesurau sydd ar waith i gadw pawb ohonom yn ddiogel. Mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar...
I’r rhan fwyaf o bobl, gyrru cerbyd neu fynd ar feic modur neu feic yw’r gweithgarwch gwaith peryclaf maen nhw’n ei wneud. Mae oddeutu traean yr holl wrthdrawiadau traffig ffyrdd ym Mhrydain yn ymwneud â rhywun yn gyrru neu’n reidio fel rhan o’u swydd ac mae llawer iawn o ddamweiniau eraill yn digwydd i bobl yn teithio i’r gweithle neu oddi yno. Er na ellir rheoli’r risgiau yn llwyr, mae’n rhaid i gyflogwyr neu gwmnïau...
Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi cadarnhau y bydd cwsmeriaid sy’n derbyn taliadau budd-dal CThEM i gyfrif cerdyn Swyddfa’r Post yn cael rhagor o amser i newid eu cyfrif. Mae CThEM yn cydnabod y cymorth ariannol hanfodol y gall credydau treth, Budd-dal Plant a Lwfans Gwarcheidwaid ei ddarparu i unigolion a theuluoedd, ac mae am roi pob cyfle posibl iddynt dderbyn y budd-daliadau y mae ganddynt hawl i’w derbyn. Mae’r adran wedi trefnu estyniad...
Mae CThEM yn cynghori busnesau ynghylch newidiadau i’r ffordd y byddwch yn gwneud datganiadau tollau o 1 Ionawr 2022 a sut y byddant yn effeithio arnoch chi wrth brynu neu werthu nwyddau rhwng Prydain Fawr a’r UE o’r Flwyddyn Newydd. O 1 Ionawr 2022, ni fyddwch mwyach yn gallu oedi cyn gwneud datganiadau tollau o dan y Rheolau Tollau Fesul Cam sydd wedi bod yn gymwys yn ystod 2021. Mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o...
Pagination
- Previous page
- Page 103
- Next page