BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

261 canlyniadau

Mae Cymru masnach Deg yn cyffroes i lansio gweithdai cynaliadwyedd newydd! Mae’r cyrsiau hyn yn ddelfrydol ar gyfer yr hyrwyddwyr cynaliadwyedd yn eich sefydliad, ond maen nhw’n addas hefyd ar gyfer yr holl weithwyr ac unigolion ar draws pob sector, i gael cyflwyniad manwl i gynaliadwyedd. Bydd ystod o opsiynau hyfforddi hyblyg yn cael eu cynnig, gan gynnwys: Dosbarthiadau wyneb yn wyneb. Modiwlau ar-lein hunangyfeiriedig. Gweithdai byw ar-lein/ar Zoom. Ar ôl cwblhau gweithdy, bydd dysgwyr...
Mae argyfwng costau byw y DU yn effeithio ar bobl ledled y DU. Mae chwyddiant cynyddol, yn arbennig ar gyfer nwyddau critigol (fel ynni, bwyd a thanwydd), yn gwthio aelwydydd i dlodi a chaledi ariannol, gan gynnwys y rheiny mewn cyflogaeth. Mae hefyd yn ymestyn i’r pen y sefydliadau cymunedol sy'n helpu'r aelwydydd hyn. Mae Business in the Community (BITC) wedi lansio Cynllun Gweithredu Costau Byw newydd ar gyfer Busnesau sy'n manylu ar 12 galwad...
Ydych chi neu rywun rydych chi’n ei ‘nabod yn rhedeg busnes bach ysbrydoledig sy’n addas ar gyfer #TheSmallAwards. Os felly, ewch amdani i gystadlu yn 2023! Bydd y beirniaid yn chwilio am dystiolaeth o ymgysylltu cadarn â’r gymuned gan fusnesau bach tra hefyd yn chwilio am berfformiad effeithiol fel busnes parhaus. Dyma’r categorïau: Arwr Stryd Fawr – y busnes stryd fawr gorau Gwobr ‘Bricks and Clicks’ – busnes bach amlsianel gorau Gwobr Etifeddiaeth – y...
Mae’r Prif Swyddog Meddygol, Frank Atherton, wedi cyhoeddi mai Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol cenedlaethol ar gyfer artistiaid tatŵio a’r rheini sy’n gweithio mewn busnesau tyllu’r corff, lliwio’r croen yn lled-barhaol, aciwbigo, ac electrolysis. Nod y cynllun yw lleihau heintiau a chael gwared ar arferion gweithio gwael, drwy greu cofrestr gyhoeddus ganolog i ymarferwyr trwyddedig a safleoedd busnes sydd wedi eu cymeradwyo. Dyma gam olaf y newidiadau...
Bydd y gwaith brys, a ddechreuodd ar 5 Ionawr, yn cael ei gwblhau o fewn yr amserlen 4 wythnos a bydd disgwyl i'r bont ailagor gyda chyfyngiad pwysau erbyn hanner nos (00:01hrs) ar ddydd Iau 2 Chwefror 2023. Mae Llywodraeth Cymru ac UK Highways A55 Ltd, ar y cyd â’r cwmnïau peirianneg Spencer Group a COWI, yn parhau i gydweithio'n agos i ddatblygu cynllun ar gyfer gwaith adfer tymor hwy, gan achosi cyn lleied â...
Gall pobl hŷn wynebu llawer o rwystrau rhag dod o gyd i gyflogaeth ac aros mewn cyflogaeth, fel diffyg oriau hyblyg i’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu neu’r rhai sy’n byw â chyflyrau iechyd hirdymor. Gan fod yr argyfwng costau byw cyfredol yn cael ergyd drom ar bobl hŷn yn arbennig, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn galluogi pobl hŷn i fanteisio ar gyflogaeth ac aros mewn cyflogaeth, os ydynt yn dymuno gwneud hynny...
Os ydych chi’n gwerthu nwyddau neu wasanaethau trwy farchnadle ar-lein yn rheolaidd, gallech gael eich ystyried yn ‘fasnachwr’. Ac os ydych chi’n ennill mwy na £1,000 cyn didynnu treuliau trwy fasnachu, bydd angen i chi dalu Treth Incwm ar hwn. At ddiben treth, mae marchnadle ar-lein yn wefan neu ap ffôn symudol sy’n delio â gwerthu nwyddau a gwasanaethau gan unigolion a/neu fusnesau i gwsmeriaid, ac yn galluogi hynny. Os ydych chi’n gwerthu eitemau yn...
Datganiad Ysgrifenedig: Cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar raglen frechu COVID-19 2023, Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn bwyllgor cynghori arbenigol annibynnol, sy'n cynghori adrannau iechyd y Deyrnas Unedig am imiwneiddio, gan wneud argymhellion am amserlenni brechu a diogelwch brechlynnau. Fel rhan o'i adolygiad parhaus o’r rhaglen frechu COVID-19, mae'r JCVI heddiw wedi cyhoeddi datganiad yn cynnwys ei gyngor diweddaraf ar raglen...
Ydych chi’n cyflogi pobl anabl? Hoffech chi ehangu’r gronfa dalent sydd ar gael ichi a chymryd camau cadarnhaol i amrywio eich gweithlu? Neu ydych chi am gefnogi’r gweithwyr anabl sydd eisoes yn rhan o’ch gweithlu? Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella cyfleoedd cyflogaeth i bobl anabl a gwneud busnesau mor gynhwysol â phosibl, gan greu amodau lle gall pob unigolyn ffynnu. Yn draddodiadol mae cyfradd cyflogaeth pobl anabl yn sylweddol is na chyfradd cyflogaeth...
Heddiw (25 Ionawr 2023), mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi datgelu rhaglen lawn o deithiau masnach rhyngwladol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwanwyn 2023, gan gefnogi busnesau Cymru sy'n teithio'r byd yn ystod y misoedd nesaf i ddatblygu eu hallforion. Gwneir y cyhoeddiad wrth i'r ddirprwyaeth fusnes ddiweddaraf o Gymru deithio i Dubai yn yr Emiradau Arabaidd Unedig (UAE) ar gyfer sioe fasnach feddygol fwyaf y Dwyrain Canol - Arab Health - ar y 28...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.