BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

281 canlyniadau

Rydyn ni'n cynllunio i brynu car neu fynd ar wyliau, felly pam nad ydyn ni'n cymryd yr un amser i gynllunio ein bywyd gwaith, ein hiechyd, neu ein llesiant ariannol yn y dyfodol? Gall cyflogwyr gefnogi eu gweithwyr dros 50 oed i gynllunio at gyfnod hwyrach eu bywydau drwy gynnig cyfle iddyn nhw fynychu Gweminarau Adolygu Canol Gyrfa, sy'n cael eu darparu yng Nghymru gan raglen Pobl Hŷn yn y Gweithle y rhwydwaith busnes cyfrifol...
Mae Siambrau Cymru wedi agor ceisiadau ar gyfer Gwobrau Busnes Cymru 2023, gan roi cyfle i BBaChau ledled y wlad gystadlu am wobrau mwyaf nodedig Cymru. Nid yw erioed wedi bod yn haws rhoi cynnig ar Wobrau Busnes Cymru ac mae am ddim. Y cyfan mae'n rhaid i bob busnes, elusen a sefydliad arall o Gymru ei wneud yw ateb pedwar cwestiwn am beth rydych chi'n ei wneud a pham rydych chi'n haeddu ennill wrth...
Cyllido Cymru yw'r llwyfan i chwilio am gyllid i'r trydydd sector yng Nghymru. Fe'i datblygwyd gan rwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru i alluogi mudiadau trydydd sector i chwilio drwy gannoedd o gyfleoedd am grantiau ac arian benthyg o ffynonellau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Gall Cyllido Cymru helpu mudiadau yng Nghymru i ddod o hyd i'r cyllid sydd ei angen arnynt yn gynt nag erioed o'r blaen. Mae'r peiriant chwilio yn helpu defnyddwyr i ganfod ffynonellau...
Mae’r Gwobrau Soldiering On yn cydnabod ac amlygu cyflawniadau cyn-filwyr benywaidd a gwrywaidd, eu teuluoedd a phawb sy'n cefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog. Dyma gategorïau eleni: gofal iechyd ac adsefydlu gwerthoedd teuluol rhagoriaeth mewn chwaraeon ysbrydoliaeth cydweithio partneriaeth ag anifeiliaid addysg, hyfforddiant a datblygu cynwysoldeb amddiffyn dechrau busnes newydd tyfu busnes effaith cymunedol busnes cyflawniad oes Croesawir enwebiadau gan Gymuned y Lluoedd Arfog a’r cyhoedd. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol...
Ydych chi'n aelod o grŵp cymunedol neu sefydliad gwirfoddol sydd wedi'i leoli mewn ardal drefol yn ne Cymru? Hoffech chi gymryd rhan mewn cynllun newydd am ddim i helpu i ddiogelu ac adfer byd natur? Yna, efallai mai dyma’r union gwrs cwrs i chi! Mae Nabod Natur – Nature Wise yn rhaglen hyfforddi ar-lein gan Cynnal Cymru – Sustain Wales sy'n eich addysgu am sut mae'r amgylchedd naturiol yn gweithio, y bygythiadau sy'n ei wynebu...
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi cyhoeddi mwy o fanylion am amserlen dalu’r cylch nesaf o gymorth â chostau byw. Bydd yr arian i bobl sy’n hawlio budd-daliadau ar sail prawf modd, gan gynnwys pobl sy’n derbyn Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn a chredydau treth, yn dechrau yn y Gwanwyn ac fe’u telir yn uniongyrchol i gyfrifon banc fesul tri thaliad dros gyfnod y flwyddyn ariannol. Bydd union ffenestri’r taliadau’n cael eu cyhoeddi yn nes...
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar sefydlu cynllun trwyddedu statudol ar gyfer holl ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru. Y prif nod yw sicrhau chwarae teg i bob busnes llety ymwelwyr sy'n gweithredu yn y sector. Mae'r pryder ynghylch diffyg tegwch wedi bod yn faes trafod ers amser gyda phryderon nad yw rhai rhannau o'r sector yn cyrraedd nac yn cydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol. Mae Cytundeb Cydweithredu Llywodraeth Cymru gyda Phlaid Cymru yn ymrwymo i...
Mae Gwobrau'r Ffederasiwn Bwyd a Diod (FDF) yn cydnabod ac yn gwobrwyo rhagoriaeth ar gyfer arloesi, cystadleurwydd a thalent yn y diwydiant bwyd a diod. Pwy sy’n cael ymgeisio? Gweithgynhyrchwyr bwyd a diod Manwerthwyr, cynhyrchwyr, tyfwyr, lletygarwch Sectorau sy'n gweithio gyda'r gadwyn cyflenwi bwyd a diod gan gynnwys ymchwilwyr, dosbarthwyr, iechyd, awdurdodau lleol a darparwyr addysg Cymerwch gip ar gategorïau'r gwobrau a gwnewch gais am ddim cyn 28 Chwefror 2023, am gyfle i ennill -...
Yn dilyn llwyddiant digwyddiad 2022 mae’n bleser gan Lywodraeth Cymru gyhoeddi dyddiadau ein cynhadledd flynyddol ar allforio. Yn sgil y diddordeb yn y gynhadledd byddwn yn cynnal dau ddigwyddiad eleni: Dydd Iau 9 Mawrth 2023 yn Stadiwm Dinas Caerdydd Dydd Iau 16 Mawrth 2023 yn y Village Hotel St David’s, Glannau Dyfrdwy Bydd y gynhadledd yn cynnwys cyfuniad o seminarau penodol ar allforio, sesiynau un i un gyda chynrychiolwyr o farchnadoedd tramor, ardal arddangos a...
Mae'r rhwydwaith busnes cyfrifol, Busnes yn y Gymuned Cymru yn cynnig lleoedd wedi'u cyllido'n llawn i gyflogwyr yng ngweithdai ar-lein ei Rwydwaith Dysgu Oed-gynhwysol. Yn rhan o'r Rhaglen Pobl Hŷn yn y Gweithle, mae'r gweithdai rhyngweithiol yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr proffesiynol adnoddau dynol neu bobl â chyfrifoldebau dros Amrywiaeth a Chynhwysiant, a bydd cyflwyniadau gan siaradwyr arbenigol, cyfle i ddysgu a rhannu arfer gorau, a chymryd camau gweithredu ymarferol i'w rhoi ar waith a...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.