BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

411 canlyniadau

Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio ar gynigion a fydd yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol i gyflwyno ardoll ymwelwyr a fydd yn creu refeniw i gynorthwyo gyda buddsoddi yn y diwydiant twristiaeth yn eu hardaloedd. Mae cyflwyno ardoll ymwelwyr yn ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. Mae’r gwaith yn cael ei wneud mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru, ac mae’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio. Mae’r ymgynghoriad ar agor. Mae Llywodraeth Cymru am glywed eich barn er mwyn...
Mae BSI wedi cyhoeddi safon genedlaethol arloesol, gan roi arweiniad i sefydliadau ar sut i reoli risgiau caethwasiaeth fodern yn eu gweithrediadau, cadwyni cyflenwi ac amgylchedd gweithredu ehangach. Mae BS 25700 yn rhoi arweiniad i sefydliadau ar gyfer mynd i'r afael â'r risg o gaethwasiaeth fodern, gan gynnwys atal, amlygu, ymateb, adfer, lliniaru, ac adrodd. Mae'r buddion i fusnesau yn cynnwys: Rheoli'r risg o gaethwasiaeth fodern yn effeithiol mewn ffordd sy'n cefnogi diwydrwydd dyladwy hawliau...
Rhaid i chi eu defnyddio erbyn 31 Ionawr 2023 neu eu cyfnewid am stampiau newydd. Mae’r Post Brenhinol yn ychwanegu cod bar at eu stampiau arferol. Ar ôl 31 Ionawr 2023, ni fydd stampiau arferol heb god bar yn ddilys mwyach. Gallwch naill ai ddefnyddio’r stampiau hyn cyn y terfyn amser hwn, neu eu cyfnewid am y stampiau newydd â chod bar. Y stampiau sy’n newid yw’r rhai a fydd yn gyfarwydd iawn i chi...
Mae arolwg ar-lein y Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi cael ei estyn i 21 Tachwedd, i sicrhau bod gan bobl ddigon o amser i roi eu hadborth gwerthfawr ar gamau gweithredu a phrosesau arfaethedig y cynllun. Mae camau i gefnogi cynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy, i wella bioamrywiaeth ac i atgyfnerthu'r economi wledig yn rhan o'r cynigion sy'n amlinellu'r camau nesaf yn y gwaith o lunio cynllun blaengar Cymru ar gyfer cefnogi ffermwyr. Mae'r Cynllun Ffermio...
Mae Enterprise Nation, Uber a Be Inclusive Hospitality yn ymuno i gefnogi cwmnïau drwy'r Gronfa Busnesau Pobl Dduon. Bydd y gronfa’n dosbarthu £250,000 i gwmnïau sy'n eiddo i bobl dduon yn y diwydiant arlwyo sy'n dal i frwydro i adfer yn dilyn y pandemig ac sydd nawr yn wynebu argyfyngau ynni a chostau byw. Gall bwytai sy'n eiddo i bobl dduon gyda llai na phum lleoliad wneud cais i'r gronfa am grant. Bydd 25 o...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig y bydd rhagor o gategorïau eiddo yn cael eu heithrio rhag talu premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi, gan reoli effaith rheolau treth lleol newydd i wahaniaethu rhwng ail gartrefi a llety hunanddarpar. Bydd canllawiau ychwanegol hefyd ar y disgresiwn fydd gan awdurdodau lleol o ran defnyddio’r premiymau. Daw hyn yn sgil trafod ac ymgysylltu parhaus â chynghorau, cymunedau a'r diwydiant twristiaeth. Bwriad y newidiadau treth, a fydd mewn...
Ar 19 Tachwedd 2022 bydd Diwrnod Rhyngwladol y Dynion yn dathlu'r gwerth cadarnhaol mae dynion yn ei gynnig i'r byd, i’w teuluoedd ac i'w cymunedau. Mae'r diwrnod yn tynnu sylw at fodelau rôl cadarnhaol ac yn codi ymwybyddiaeth o lesiant dynion. Ar lefel leol, gall pobl, elusennau, cyflogwyr a sefydliadau benderfynu defnyddio unrhyw feysydd, materion neu weithgareddau o’u dewis i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Dynion. I'w helpu i gael syniadau, fe wnaeth llawer o bobl...
Ydych chi’n fusnes gwyrdd newydd neu’n eco-entrepreneur gyda syniad ardderchog yn y sector economi gylchol a’r economi werdd? Mae Gwobr Green Alley yn chwilio am syniadau gwyrdd gwych, gwasanaethau, cynhyrchion a thechnolegau newydd a all droi gwastraff yn adnodd. Yn gyfnewid am hynny, maent yn cynnig cefnogaeth strategol, cyfleoedd rhwydweithio ac arbenigedd mewn ymuno â’r economi gylchol ledled Ewrop, a gwobr ariannol gwerth €25,000. Rhaid i fusnesau newydd sy’n gwneud cais ar gyfer y Green...
Sefydlwyd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg gan Lywodraeth Cymru i wneud argymhellion ar sut i helpu gwneud yn siŵr y gall ein holl gymunedau Cymraeg ffynnu. Maen nhw’n dymuno clywed gan aelodau o'r cyhoedd a mudiadau ar bob math o faterion sy'n effeithio ar gymunedau Cymraeg, o dai ac addysg i ddatblygiad cymunedol ac adfywio. Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 13 Ionawr 2023. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Dyfodol cymunedau Cymraeg: galwad...
Mae Cymru wedi hen ennill ei phlwyf fel ailgylchwr gorau’r DU ac mae’r ystadegau newydd a gyhoeddwyd heddiw (10 Tachwedd 2022) yn dangos ein bod yn rhagori ar y targed ailgylchu statudol o 64% gan daro 65.2%. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1 biliwn mewn ailgylchu ers datganoli, ac mae hynny wedi helpu codi cyfraddau o’r 4.8% pitw ym 1998-99 i 65% a mwy heddiw. Yn 2024-25, bydd y targed statudol yn cael ei godi...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.