BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

751 canlyniadau

Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi annog y holl sy’n gymwys am bigiad atgyfnerthu Covid-19 y gwanwyn i fanteisio ar y cynnig cyn y dyddiad cau, sef 30 Mehefin 2022. Mae dyddiad cau o 30 Mehefin 2022 wedi'i gyflwyno i sicrhau y bydd pawb sy'n gymwys i gael pigiad atgyfnerthu'r gwanwyn yn cael cyfnod digon hir rhwng hyn a'r pigiad atgyfnerthu yn hydref 2022, os ydynt hefyd yn gymwys. Mae disgwyl cyhoeddiad yn fuan gan...
Rhwng 2 a 5 Mehefin 2022 bydd cymunedau yn dod at ei gilydd i fwynhau penwythnos gŵyl banc hir. Mae’n debygol y bydd llawer o gymunedau yn cwrdd am y tro cyntaf ers dyfodiad COVID-19. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi creu canllawiau wedi’u teilwra i gefnogi’r rhai sy’n cynnal partïon ac yn gweini bwyd, gyda’r nod o leihau risg a sicrhau bod bwyd yn ddiogel i bawb – fel y gall pob un ohonom...
Gwiriwch restr o lythyrau diweddar gan CThEM i'ch helpu i benderfynu a yw llythyr rydych wedi'i dderbyn yn sgam. Cynnwys: Llythyr OCA300 — ad-dalu didyniadau Benthyciad Myfyrwyr Gordaliad o grantiau’r Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth (SEISS) Ymchwil ynghylch profiad cyflogeion o’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws Ymchwil ynghylch digideiddio Budd-dal Plant Ad-daliad o Dreth Incwm oherwydd newidiadau i’r grant a gawsoch drwy’r Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth (SEISS) Llythyrau eraill y dylech eu gwirio Os nad...
Annog pobl i gefnu ar eu ceir a dechrau beicio yw nod buddsoddiad gwerth £50 miliwn a gafodd ei gyhoeddi gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters. Fel rhan o’r buddsoddiad a gyhoeddwyd, bydd pob awdurdod lleol yn derbyn o leiaf £500,000, gyda dyraniadau ychwanegol wedi cael eu dyfarnu yn dilyn proses ymgeisio gystadleuol. Mae rhestr o awdurdodau a’r symiau a ddyfarnwyd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: Teithio llesol a llwybrau diogel mewn...
Datgarboneiddio yn y diwydiant pecynnu: Gwella cylcholdeb yn y sector plastigau Bydd y weminar hon yn archwilio sut gall y sector plastigau ddatgarboneiddio yn y dyfodol, a pha offer a all helpu hwyluso’r newid hwn. Yn ystod y weminar hon, bydd arbenigwyr yr Ymddiriedolaeth Garbon: Yn trafod sut gall y sector plastigau ddatgarboneiddio yn y dyfodol, a sut gall offer arloesol helpu hwyluso’r newid hwn Yn cyflwyno’r effaith bosibl y gall cynyddu cynnwys wedi’i ailgylchu...
Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi dod i gytundeb mewn perthynas â sefydlu Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cadarnhau. Mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno i gefnogi polisïau Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru ar ôl i Lywodraeth y DU gytuno i ofynion gan Lywodraeth Cymru fod Gweinidogion y DU yn darparu o leiaf £26 miliwn o gyllid cychwynnol, nad oes angen ei ad-dalu, ar gyfer unrhyw Borthladd Rhydd sy’n...
Mae Ashley Family Foundation yn cynnig grantiau o dan £10,000 ac mae'n ffynhonnell wych o gyllid posibl ar gyfer grwpiau gwledig a sefydliadau cymunedol. Bydd y cylch ariannu nesaf ym mis Gorffennaf 2022. Derbynnir ceisiadau drwy gydol y flwyddyn a gwneir dyfarniadau cyllid dair gwaith y flwyddyn yn dilyn cyfarfod Bwrdd yr Ymddiriedolwyr: Pwy ydyn nhw Beth maen nhw’n ei ariannu Sut i wneud cais Mae’r sefydliad yn cefnogi 5 prif thema: Cymru Gwledig Y...
Mae’r Ganolfan Cerbydau Cysylltiedig ac Awtonomaidd (CCAV) ynghyd ag Innovate UK, Innovate UK KTN a ZENZIC yn eich gwahodd i ymuno â nhw mewn digwyddiad ymgysylltu â diwydiant ar 24 Mai 2022, ar-lein ac yn y Ganolfan Genedlaethol Ecsbloetio Digidol yng Nglynebwy, Cymru. Mae’r digwyddiad hwn yn cynnwys diweddariad pwysig gan CCAV ar eu cynlluniau am y blynyddoedd i ddod sy’n gysylltiedig â symudedd cysylltiedig ac awtonomaidd. Bydd CCAV yn rhoi diweddariad bras ar gynlluniau...
Mae'r cyhoeddiad gan lywodraeth y DU ar ymagwedd newydd at reolaethau mewnforio yn cadarnhau na fydd y rheolaethau mewnforio sy'n weddill ar nwyddau'r UE yn cael eu cyflwyno eleni mwyach. Yn hytrach, bydd masnachwyr yn parhau i symud eu nwyddau o'r UE i Brydain Fawr fel y maent yn gwneud nawr. Bydd llywodraeth y DU nawr yn adolygu sut i weithredu'r rheolaethau hyn sy'n weddill mewn ffordd well sy'n defnyddio technolegau newydd arloesol, gyda manylion...
Cyfleoedd gwyliau gwirfoddoli yng Nghymru Mae gwirfoddoli fel rhan o wyliau yn gallu’ch helpu i ddysgu sgiliau newydd, lleihau costau yn gysylltiedig â theithio, a rhoi rhywbeth yn ôl i’r lle rydych chi’n ymweld ag ef, neu elusen sy’n agos at eich calon. I’r rheiny nad ydynt yn gyfarwydd â’r term, mae gwyliau gwirfoddoli (sydd hefyd yn cael ei adnabod fel twristiaeth gwirfoddoli (‘voluntourism’)) yn golygu bod twristiaid yn gwneud rhyw fath o waith fel...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.