BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

151 canlyniadau

Bydd Gwynedd yn croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i ardal Llŷn ac Eifionydd yr haf yma – cyfle delfrydol i fusnesau micro a bach eu maint i arddangos a gwerthu eu cynnyrch ar y maes. Dyddiad Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 yw 5 i 12 Awst 2023. Bydd tîm Cefnogi Busnes Cyngor Gwynedd yn cynnig nifer cyfyngedig o ofodau masnachu am ddim ar faes yr Eisteddfod eleni, gyda blaenoriaeth yn cael ei roi i fusnesau newydd...
Yr Wythnos Fawr Werdd yw dathliad mwyaf erioed y DU o weithredu cymunedol i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a diogelu natur. Bob blwyddyn, mae pobl yn dod at ei gilydd i roi cefnogaeth enfawr i weithredu er mwyn diogelu'r blaned. Mae degau o filoedd o bobl ym mhob cwr o'r wlad yn dathlu'r camau calonogol, dewr, dyddiol sy'n cael eu cymryd i gefnogi natur a brwydro yn erbyn newid yn yr...
A ydych chi mewn perygl o ddioddef ymosodiad seiber? Mae risgiau seiber ymhlith y bygythiadau mwyaf i fusnesau bach a chanolig (BBaChau) yng Nghymru. Os ydych chi’n fusnes ac yn defnyddio unrhyw un o’r offer busnes sylfaenol canlynol, gallech chi fod mewn perygl: E-bost Cadw data cwsmeriaid Cynnal gwefan Derbyn taliadau ar-lein Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei hariannu gan Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru i ymchwilio i wydnwch BBaChau yng...
Dysgwch sut gall eich busnes ddeall dementia yn well a chael canllaw rhad ac am ddim. O fanwerthu i dai, cyfleustodau i adloniant, cyllid i drafnidiaeth, mae gan bob sector ran i’w chwarae. Gall pob busnes gyfrannu at fynd i’r afael ag effaith gymdeithasol ac economaidd dementia. Mae ystadegau’n dangos bod llai na hanner (47%) o’r bobl sy’n byw gyda dementia yn teimlo’n rhan o’u cymuned (Cymdeithas Alzheimer’s, 2013), a dywedodd 28% eu bod wedi...
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn lansio cynllun newydd i alluogi busnesau bach a chanolig, neu 'BBaChau', gael at gymorth iechyd a lles. Mae Gweinidogion yn darparu £8 miliwn i ddarparu'r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith newydd ledled Cymru dros y ddwy flynedd nesaf. Bydd y gwasanaeth yn darparu mynediad yn rhad ac am ddim at gymorth therapiwtig i weithwyr BBaChau neu'r hunangyflogedig. Bydd cymorth ar gael i bobl sy'n absennol o’r gwaith, neu sydd mewn...
Mae Gwobrau Cynnyrch a Phecynnu Newydd The Grocer 2023 bellach ar agor ar gyfer ceisiadau. Gwahoddir brandiau yn amrywio o alcohol a melysion i gwpwrdd storio a chaws i arddangos eu lansiadau mwyaf cymhellol (ac ail-lansio). Yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, bydd digwyddiad 2023 yn cydnabod rhagoriaeth pob ymgeisydd ar y rhestr fer, gan ddyfarnu medal aur, arian neu efydd i gydnabod ymdrechion i ddod â chyffro a gwahaniaeth i eiliau bwyd. Bydd gwobrau eleni...
Cynhelir pumed Diwrnod Diogelwch Bwyd y Byd ar 7 Mehefin 2023 a bydd yn tynnu sylw at, ac yn ysbrydoli camau i, helpu atal, canfod a rheoli risgiau a gludir gan fwyd, gan gyfrannu at ddiogelwch bwyd, iechyd dynol, ffyniant economaidd, cynhyrchu amaethyddol, mynediad i'r farchnad, twristiaeth a datblygu cynaliadwy. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol World Food Safety Day 2023 (who.int) Bwyd mwy diogel, busnes gwell Fel busnes bwyd, mae...
Mae'r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) wedi cyhoeddi dogfen trawsnewid sy'n nodi pa batentau y gall cwsmeriaid eu disgwyl dros y 12 mis nesaf, a manylion y newidiadau sydd ar ddod i wasanaethau IPO fel rhan o'r Rhaglen Trawsnewid Un IPO. Bydd nifer o newidiadau pwysig hefyd i wasanaethau'r IPO cyn lansio’r gwasanaeth newydd ar gyfer patentau yng ngwanwyn 2024. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol New patents service - one year...
Mae gan bawb ymennydd. Fodd bynnag, nid pawb sy’n defnyddio eu hymennydd yn y gwaith! Yn aml, mae pobl yn dod i’r gwaith fel petaen nhw wedi gadael eu hymennydd gyda’u cot ar y bachyn. O ganlyniad, pan fyddan nhw’n gweld pethau sydd o chwith, problemau y mae angen eu datrys, maen nhw’n gwneud ... dim byd! I gynnal busnes twf uchel llwyddiannus, mae angen i bawb ddefnyddio’u hymennydd. Ond chi sy’n gyfrifol am wneud...
Mae angen i bob busnes twf uchel reoli arian parod. Mae’r rhan fwyaf o fusnesau’n llyncu arian parod, ond mae busnesau twf uchel yn ei draflyncu. Yn y rhan fwyaf o achosion, pan fydd busnesau’n methu, nid diffyg elw sydd ar fai ond y ffaith eu bod yn rhedeg allan o arian parod. Mae’r hen cliché yn wir, ‘arian parod yw einioes busnes’. Felly, trysorwch eich arian parod. Yn arbennig, ffrwynwch ef lle bynnag a...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.