BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1041 canlyniadau

Bydd gwledd o sesiynau yn darparu prydau bwyd iach a gweithgareddau addysgol i blant a phobl ifanc ar gael eto'r haf hwn drwy'r rhaglen Bwyd a Hwyl. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu hyd at £4.85 miliwn ar gyfer darparu Bwyd a Hwyl, a gynhelir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) mewn ysgolion yn ystod gwyliau'r haf. Mae'r sesiynau yn cynnig brecwast a chinio iach i blant a phobl ifanc, yn ogystal â gweithgareddau ymarfer corff...
Ar ôl diffinio'ch gweledigaeth yn glir a pharatoi eich hun yn feddyliol ar gyfer eich cenhadaeth, mae un cam pellach i'w gymryd cyn i chi anelu am y sêr. Mae angen i chi gydnabod, yn y pen draw, mai chi sy'n gyfrifol am lwyddo neu fethu, ac mai chi fydd y prif sbardun y tu ôl i'ch ymgais. Mae hyn yn golygu mai chi fydd â’r cyfrifoldeb, a bydd angen i chi fod yn barod...
Bydd miliynau o gartrefi ledled Prydain Fawr yn derbyn gostyngiadau na fydd angen eu had-dalu ar eu biliau ynni y gaeaf hwn, wrth i lywodraeth y DU amlinellu manylion pellach y Cynllun Cymorth Biliau Ynni. Bydd y gostyngiad o £400, sy'n cael ei weinyddu gan gyflenwyr ynni, yn cael ei dalu i ddefnyddwyr dros 6 mis gyda thaliadau'n cychwyn o fis Hydref 2022, er mwyn sicrhau bod aelwydydd yn derbyn cymorth ariannol trwy gydol misoedd...
Bydd ail Gynhadledd flynyddol Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) De Cymru, yn benodol ar gyfer busnesau bach yn y rhanbarth, yn helpu perchnogion a rheolwyr i ddeall sut y gallant dyfu eu busnesau. Bydd y gynhadledd yn dod â busnesau ac arbenigwyr ynghyd i ganolbwyntio ar sut y gall busnesau bach gyflymu eu twf mewn ffordd barhaus a chynaliadwy. Bydd sesiynau amrywiol drwy'r dydd yn helpu busnesau i ddeall: Sut y gallant amlygu opsiynau strategol...
Mae CIPD wedi casglu rhywfaint o wybodaeth ymarferol i gyflogwyr i gefnogi eu gweithwyr drwy'r argyfwng costau byw. Yn erbyn cefndir o brisiau cynyddol am fwyd, ynni a nwyddau a gwasanaethau hanfodol eraill, mae llawer o gyflogwyr yn y DU yn gofyn beth y gallant ei wneud i gefnogi lles ariannol eu pobl. Y newyddion da yw, hyd yn oed os na allwch fforddio cynnig codiadau cyflog sy'n curo chwyddiant, mae llawer y gallwch ei...
Mae cronfa newydd gwerth £5 miliwn wedi agor heddiw ar gyfer prosiectau a fydd yn darparu triniaethau gofal iechyd arloesol i gyn-filwyr. Bydd y cyllid yn cefnogi sefydliadau sy'n ceisio ymchwilio i a threialu technoleg arloesol a allai helpu cyn-filwyr ag anghenion gofal iechyd cymhleth. Weithiau, bydd cyn-filwyr yn wynebu problemau iechyd unigryw o ganlyniad i'w gwasanaeth milwrol a bydd y Gronfa Arloesi Iechyd Cyn-filwyr yn sbarduno arloesedd mewn technegau a fydd yn y pen...
Mae'r Rhaglen Innovation Exchange yn gweithio ochr yn ochr ag Oxford Innovation Advice a’r UK National Innovation Centre for Ageing (NICA) i ddod o hyd i gwmnïau arloesol sydd ag uchelgais i dyfu eu busnes. Mae'r gystadleuaeth yn chwilio am arloeswyr gyda syniadau ar gyfer cynhyrchion neu wasanaethau newydd a all gefnogi pobl i gadw'n iach ac yn egnïol i'n helpu i barhau i fod yn symudol a chysylltiedig wrth i ni heneiddio. Y farchnad...
Bydd busnesau a gweithwyr, yn enwedig y rheiny yn yr economi gig, yn elwa ar fwy o eglurder ynghylch eu statws cyflogaeth, diolch i ganllawiau newydd a gyhoeddwyd gan lywodraeth y DU. Mae gan bobl sydd â statws cyflogaeth gwahanol hawliau gwahanol wedi'u nodi’n gyfreithiol. Nod yr hawliau yw amddiffyn unigolion. Mae'r rhan fwyaf o'r hawliau yn orfodol, ac fel arfer does dim modd eu dileu. Mae’r canllawiau manwl yn ategu canllawiau statws cyflogaeth GOV.UK...
Yn y sesiwn ar-lein a gynhaliwyd gan Croeso Cymru y llynedd, cafodd busnesau twristiaeth gyfle i glywed gan yr RNLI ac AdventureSmart UK ynghylch sut i helpu gwesteion ac ymwelwyr i gadw'n fwy diogel yn yr awyr agored. Mae adnoddau o'r weminar hon yn dal i fod ar gael ar Arhoswch yn Fwy Diogel yn yr Awyr Agored | Busnes Cymru (gov.wales) Gyda milltiroedd o arfordir, afonydd a llynnoedd trawiadol i'w harchwilio yng Nghymru, mae'r...
Bydd cynllun cymorth hanfodol sy'n cynnig benthyciadau a gefnogir gan lywodraeth y DU i fusnesau bach yn cael ei ymestyn am ddwy flynedd arall. Mae'r Cynllun Benthyciadau Adfer (RLS), a lansiwyd yn wreiddiol ym mis Ebrill 2021 i helpu busnesau sy'n adfer o bandemig Covid-19, wedi cefnogi bron i 19,000 o fusnesau, gyda chefnogaeth gwerth £202,000 ar gyfartaledd. Mae’r benthyciad mwyaf y gellir ei gael yn parhau i fod hyd at £2 miliwn. Fodd bynnag...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.