BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1081 canlyniadau

Bydd deddfwriaeth newydd yn sicrhau bod morwyr yn cael cyflog sydd o leiaf yn gyfwerth ag Isafswm Cyflog Cenedlaethol y DU. Heddiw (6 Gorffennaf 2022), mae llywodraeth y DU wedi cyflwyno deddfwriaeth newydd i sicrhau bod morwyr yn cael cyflog sydd o leiaf gyfwerth ag Isafswm Cyflog Cenedlaethol y DU. Mae'r newidiadau'n golygu y bydd miloedd o forwyr sy'n dod i mewn i'r DU yn rheolaidd yn cael cyflog tecach. Mae’r Bil Cyflogau Morwyr –...
Bydd pobl ledled Cymru yn cael cyfle i ddod yn berchnogion tafarndai, theatrau, swyddfeydd post, meysydd chwaraeon a siopau cornel lleol sydd mewn perygl yn sgil lansio Cronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU. Gall sefydliadau gwirfoddol a chymunedol wneud cais am arian cyfatebol. Mae'r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol ar agor ar gyfer ceisiadau Datganiad o Ddiddordeb. Ar ôl i chi basio'r cam Mynegiad o Ddiddordeb, anfonir dolen atoch i gyflwyno cais llawn i'r Gronfa. Sylwer mai...
Heddiw (13 Gorffennaf 2022), mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi lansio strategaeth newydd i helpu i greu swyddi a lledaenu ffyniant economaidd drwy annog ystod eang o ddigwyddiadau llwyddiannus, cynaliadwy ac unigryw Gymreig ledled Cymru. Mae Strategaeth Digwyddiadau Cenedlaethol Cymru 2022 i 2030 yn adeiladu ar dwf digynsail digwyddiadau yng Nghymru dros y ddau ddegawd diwethaf. Mae'r strategaeth yn ceisio annog digwyddiadau o bob math a maint sydd wedi'u lleoli ym mhob cwr o...
Heddiw (12 Gorffennaf 2022), Mae'r Senedd wedi cymeradwyo deddfwriaeth i ostwng y terfyn cyflymder cenedlaethol diofyn ar ffyrdd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr o 30mya i 20mya. Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i wneud hyn - gan helpu i achub bywydau, datblygu cymunedau mwy diogel, gwella ansawdd bywyd ac annog mwy o bobl i wneud dewisiadau teithio mwy cynaliadwy a llesol. Mae'r terfynau cyflymder arafach newydd yn cael eu treialu ar hyn...
Mae cynllun Haf o Hwyl gwerth £7 miliwn Llywodraeth Cymru yn dychwelyd am yr ail flwyddyn i gefnogi plant a phobl ifanc ledled Cymru. Gan adeiladu ar lwyddiant Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles y llynedd, bydd y cynllun yn cael ei gynnal rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2022 gan helpu plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon, diwylliant a chwarae. Bydd y gweithgareddau yn rhad ac am...
Ydych chi eisiau datblygu eich busnes I'r lefel nesaf gyda buddsoddiad yn 2022? Wel, dyma’r gystadleuaeth i chi. Cyflwynwch eich busnes i fuddsoddwyr, enillwch wobrau gwerth £10,000, yn ogystal â phecyn mentora a hyfforddi. Mae The Pitch yn cefnogi busnesau newydd ledled y DU, p'un a ydych newydd lansio neu'n paratoi i dyfu. Mae wedi'i gynllunio i roi hwb i'ch sgiliau, eich rhwydwaith a'ch hyder. Mae'r gystadleuaeth yn agored i fusnesau yn y DU sydd...
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu hyd at £120,000 o gyllid i gefnogi mwy o gydweithredu economaidd â rhanbarthau Baden Württemberg, Llydaw a Fflandrys. Mae'r fenter yn agored i geisiadau gan bob sefydliad yng Nghymru sydd bellach yn canolbwyntio ar weithgarwch yn ystod y flwyddyn ariannol hon (hyd at 31 Mawrth 2023). Mae'r manylion llawn ar gael yma: Ariannu: SCoRE Cymru | LLYW.CYMRU I gael rhagor o wybodaeth neu i drafod cynnig, cysylltwch ag Uned Horizon...
Yn dilyn y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu pobl ifanc o dan 25 oed yng Nghymru, gyrraedd eu potensial gyda chymorth i gael lle mewn addysg, hyfforddiant, cymorth i gael gwaith neu i ddod yn hunangyflogedig. Datblygwyd y Grant Dechrau Busnes i Bobl Ifanc fel rhan o'n hymrwymiad i'r Warant i Bobl Ifanc. Er mwyn sicrhau ein bod yn deall anghenion entrepreneuriaid ifanc, rydym wedi cynnal sgyrsiau gyda phobl ifanc drwy'r Llais...
Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi cyhoeddi’r ail set o ystadegau alldro blynyddol ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru, gan nodi cam pwysig arall yn y broses o ddatganoli trethi i Gymru. Mae’r ystadegau alldro yn dangos y codwyd £2,140m drwy gyfraddau treth incwm Cymru yn 2020-21, sy’n gynnydd o 4.9% o gymharu â 2019-20. Dyma ddolen at yr ystadegau: https://www.gov.uk/government/statistics/welsh-income-tax-outturn-stati… Mae’r ystadegau alldro ar...
Saesneg yn unig. Energy prices have been rising at an unprecedented rate since 2021. It has caused a significant amount of worry and stress for everyone across the UK. Both households and businesses are looking for ways to manage their soaring utility bills. One in four small business owners has increased prices to cope with rising business costs and inflation, and 30% have said that they will have to reduce their energy usage to save...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.