BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

121 canlyniadau

Money image
Mae’r Canghellor wedi cyhoeddi ei Ddatganiad yr Hydref. Nodir rhai pwyntiau allweddol isod: Bydd y Cyflog Byw yn cynyddu 9.8% i £11.44 yr awr. Newidiadau i Yswiriant Gwladol. Cynnydd o 8.5% i £221.20 yng Nghyfraniad Pensiwn y Wladwriaeth o fis Ebrill 2024. Bydd £50m o fuddsoddiadau codi’r gwastad yn cael eu gwneud ledled Cymru, gan gynnwys ym Mhowys, Sir Ddinbych, Llanelli a Sir Fynwy. Bydd £500,000 hefyd yn cael ei fuddsoddi yng Ngŵyl y Gelli...
small business owner, florist, using a laptop
O 1 Ionawr 2024, bydd angen i lwyfannau fel Airbnb, Uber, Deliveroo ac Etsy gofnodi faint o arian y mae pobl yn ei wneud drwy'r llwyfannau a’i adrodd i CThEF. Mae'r rheolau wedi cael eu cyflwyno fel rhan o ymgyrch i atal osgoi talu treth gan bobl sy'n llawrydd, yn hunangyflogedig neu sy’n gwneud arian yn ddistaw bach. I gael mwy o wybodaeth ac i ddarllen mwy am y rheolau, ciciwch ar y ddolen ganlynol...
Criccieth, Gwynedd, Wales, a man using his ride on mower to cut the grass on a hillside around his cabin.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) ddechrau paratoi i gynnal ailbrisiad arfaethedig o bob un o’r 1.5 miliwn eiddo domestig yng Nghymru. Fel rhan o hyn rydym wedi cysylltu â phreswylwyr sy’n byw ar ffermydd gweithiol neu mewn cartrefi symudol, yn gofyn am wybodaeth. Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy fynd i Gwybodaeth am ffermdai ac eiddo amaethyddol, a charafanau preswyl a chartrefi parc (holiadur) - GOV.UK Mae angen i...
White Ribbon day
Diwrnod Rhuban Gwyn yw'r diwrnod a gydnabyddir yn rhyngwladol lle mae dynion yn dangos eu hymrwymiad blwyddyn o hyd i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, ac fe’i gynhelir ar 25 Tachwedd 2023. Nid yw newid diwylliant yn digwydd dros nos, ond gallwn roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched yn ystod ein hoes. Eleni, mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn annog unigolion a sefydliadau i wneud dewisiadau a chymryd camau...
businesswoman looking at futuristic interface screen.
Sut gallech chi wneud gwahaniaeth i ddefnyddwyr sy’n defnyddio Data Clyfar, pe byddai’n bodoli ar draws ystod o sectorau gwahanol yn yr economi? Mae’r Adran Busnes a Masnach (DBT), Challenge Works, y Sefydliad Data Agored (ODI) a Smart Data Foundry yn gwahodd unigolion, arloeswyr, entrepreneuriaid, y byd academaidd a chymdeithas sifil i ddod o hyd i ffyrdd arloesol y gallai Data Clyfar wneud gwahaniaeth i ddefnyddwyr, busnesau bach a chymdeithas ehangach. Nid yw’r alwad agored...
Female Engineer Writing Code
Gwahoddir ceisiadau ar gyfer y rhaglen Hinsawdd a’r rhaglen Libra gan Tech Nation. Climate: Catalysing The Growth Of Climate Tech Dyma raglen dwf ar gyfer busnesau newydd ym maes yr hinsawdd, sydd wedi ymrwymo i leihau allyriadau byd-eang, dileu gwastraff y byd, ac adfer natur. Bydd dros 45% o’r gostyngiadau mewn allyriadau sydd eu hangen er mwyn cyrraedd sero net erbyn 2050 yn deillio o fabwysiadu technolegau ym maes yr hinsawdd sydd wrthi’n cael eu...
young woman warehouse worker accident leg injury slip and fall ankle sprain friend help support
Dysgwch am yr ymgyrchoedd a’r newyddion diweddaraf gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Yn cynnwys: Cadw’n ddiogel yn y gwaith ar drothwy misoedd y gaeaf, pan fydd damweiniau’n debygol o ddigwydd yn amlach oherwydd llithro a baglu. Mae llithro a baglu yn achosi dros draean o’r holl anafiadau difrifol, ac maent hefyd yn gallu arwain at fathau eraill o ddamweiniau, fel cwympo o uchder neu i mewn i beiriannau. Ar wefan yr Awdurdod Gweithredol...
 woman florist smiling confident using laptop at flower shop
Cynhelir Diwrnod Entrepreneuriaeth Menywod ar 19 Tachwedd 2023. Mae Sefydliad Diwrnod Entrepreneuriaeth Menywod yn fudiad cymdeithasol sydd â’r nod o gefnogi ac ehangu entrepreneuriaeth ymhlith menywod y byd, yn ogystal â chreu tîm o arweinwyr ym mhob gwlad i ddatblygu sgiliau arwain allweddol. Y digwyddiad hwn yw dathliad mwyaf y byd ar gyfer menywod sy’n arloesi ac yn creu swyddi wrth lansio busnesau newydd, gan ddod â syniadau yn fyw, sbarduno twf economaidd, ac ehangu...
houses in autumn landscape of Betws y Coed
Helpwch ni i benderfynu ynghylch dyfodol y Dreth Gyngor yng Nghymru . Mae llawer wedi newid ers y tro diwethaf i'r Dreth Gyngor gael ei diweddaru yng Nghymru yn 2003 ac mae'r system bellach wedi dyddio ac yn annheg. Mae rhai pobl yn talu gormod o Dreth Gyngor. Efallai na fydd rhai pobl yn talu digon, a chodir cyfran gymharol uwch o dreth ar aelwydydd sy'n byw mewn eiddo gwerth is. Rydym yn edrych ar...
Vaughan Gething
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething... Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae mentrau cymdeithasol wedi wynebu cyfnod hynod anodd a heriol, ond maent wedi bod wrth wraidd cymunedau ledled Cymru, yn darparu cymorth i'r rhai mwyaf anghenus. Mae Diwrnod Menter Gymdeithasol yn rhoi llwyfan i bob menter gymdeithasol ddweud ei stori, dangos yr hyn sy'n eu gwneud yn wahanol i fusnesau traddodiadol a thynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y mae eu gwaith yn ei...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.