BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1121 canlyniadau

Nod StartUp UK yw addysgu, dathlu a chynrychioli entrepreneuriaid newydd ac mae'n darparu'r dechnoleg, y cyngor a'r offer hanfodol ar gyfer bancio a chyfrifyddiaeth sydd eu hangen i ddechrau a thyfu busnes. Dyma bum ffordd y gallwch chi elwa ar ymuno â'r rhaglen: Mynychu digwyddiad – ymunwch â StartUp Saturday wyneb yn wyneb neu weminar Cinio a Dysgu ar-lein i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddod yn fos arnoch chi’ch hun. Archwliwch...
Oeddech chi'n gwybod y gall busnesau sydd â budd amgylcheddol ofyn am brosesu eu cais am batentau yn gyflymach? Mae'r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yn cynnig gwahanol ddulliau o gyflymu'r broses o brosesu eich cais am batentau. Cyflwynwyd y Sianel Werdd ar gyfer ceisiadau patentau ar 12 Mai 2009. Mae'r gwasanaeth hwn yn caniatáu i ymgeiswyr ofyn am brosesu eu cais am batentau yn gyflymach os oes gan y ddyfais fudd amgylcheddol. Rhaid i'r ymgeisydd...
Heddiw (24 Mehefin 2022), mae Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, wedi cadarnhau y bydd profion LFD am ddim yn dal i fod ar gael yn awr yng Nghymru tan 31 Gorffennaf 2022. Bydd profion ar gael i'r cyhoedd sy'n dangos symptomau o’r coronafeirws (tymheredd uchel, peswch cyson sy’n newydd, newid yn eu synnwyr o arogl neu flas neu eu colli yn llwyr), a bydd profion hefyd ar gael am ddim i bobl sy'n ymweld â...
Mae Gwobrau Entrepreneuriaid Barclays yn ôl ac ar agor nawr ar gyfer enwebiadau. Mae'r Gwobrau'n dathlu'r entrepreneuriaid hynny sy'n tarfu ar y sefyllfa bresennol, gan yrru arloesedd a chefnogi cymunedau a'r economi yn ehangach. Dyma’ch cyfle i arddangos eich busnes a'r daith rydych chi wedi bod arni hyd yn hyn. Dyma gategorïau’r gwobrau ar gyfer 2022: Gwobr Busnes Newydd Gwobr Busnes sy’n Tyfu Gwobr Cymdeithasol Gwobr Cynaliadwyedd Gwobr Ehangu Rhyngwladol Gwobr Arloesedd Eagle Labs Gwobr...
Mae Tŷ'r Cwmnïau wedi diweddaru eu canllawiau ar sut i ddiogelu eich cwmni rhag sgamiau a thwyll a sut i adrodd ar hyn. Cynnwys Cofrestru ar gyfer ffeilio ar-lein Cadwch eich cod dilysu yn ddiogel Cofrestrwch ar gyfer ein cynllun PROOF Defnyddiwch ein gwasanaeth Dilyn am ddim Dewiswch y cyfeiriad gohebu cywir Gwirio bod cyfeiriadau’r wefan yn ddilys Byddwch yn ymwybodol o e-byst sgâm a galwadau ffôn Adrodd ar dwyll Busnesau cryptoasset anghofrestredig Mae gweithdrefnau...
Mae cystadleuaeth newydd gwerth £40 miliwn i roi hwb i wasanaethau hunanyrru masnachol, fel cerbydau dosbarthu a gwenoliaid teithwyr, wedi cael ei lansio. Bydd y gystadleuaeth 'Masnacheiddio Symudedd Cysylltiedig ac Awtomataidd', sy'n cael ei chynnal gan y Centre for Connected and Autonomous Vehicles (CCAV), yn darparu grantiau i helpu cyflwyno cerbydau hunanyrru at ddefnydd masnachol ledled y DU o 2025 ymlaen, gan ddarparu cyfleustra i ddefnyddwyr a gwneud teithiau'n fwy diogel, gwyrddach a mwy dibynadwy...
Dewch i ClwstwrVerse - gwŷl arddangos o gynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau sy'n canolbwyntio ar y dyfodol yn y cyfryngau. Cewch gyfle i gwrdd â’r bobl greadigol sydd wedi gwneud dros 100 o brosiectau Clwstwr yn bosibl, gan gynnwys clywed am arloesedd ym maes y cyfryngau sy’n digwydd yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Dydd Llun, 4 Gorffennaf 2022, Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Gellir cofrestru ar y dudalen Eventbrite yma: https://bit.ly/ClwstwrVerse4
Ydych chi wedi gwneud cais am ymgyrch SmallBiz100 eto? Peidiwch ag oedi a chyflwynwch eich cais heddiw. Bydd y ceisiadau'n cau am hanner nos ar 30 Mehefin 2022. Mae hwn yn gyfle gwych i dynnu sylw cenedlaethol at eich busnes bach, yn ogystal ag ymuno â rhwydwaith cymorth parod o fusnesau bach yn union fel eich un chi. Mae cael eich dewis fel un o'r 100 o fusnesau bach rhyfeddol sy'n cael sylw yn y...
Mae rhifyn mis Mehefin o'r Bwletin Cyflogwyr yn rhoi holl ddiweddariadau a chanllawiau diweddaraf CThEM i gefnogi cyflogwyr, gweithwyr proffesiynol cyflogres ac asiantau. Yn y rhifyn hwn, mae diweddariadau pwysig ar: gynnydd mewn trothwyon Yswiriant Gwladol Offer TWE Sylfaenol – datganiad ychwanegol yn ystod y flwyddyn Terfynau amser ffeilio a thalu P11D a P11D(b) Hawddfreintiau COVID-19 sy'n dod i ben Cyflwyniad Taliad Llawn ar gyfer dechreuwyr newydd: pwysigrwydd defnyddio'r cyfeiriadau gweithwyr cywir Mae'r Bwletin Cyflogwyr...
Heddiw (21 Mehefin 2022), cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi 1,200 o bobl ifanc i ddechrau eu busnes eu hunain fel rhan o gynlluniau i feithrin diwylliant newydd o entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc yng Nghymru. Gweinidog yr Economi yn ymrwymo £5 miliwn i feithrin diwylliant newydd o entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc yng Nghymru cynllunio rhan o genhadaeth Llywodraeth Cymru i wneud Cymru yn wlad lle mae mwy o bobl...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.