BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1141 canlyniadau

Mae MADE Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb am ddim i hysbysu, ennyn diddordeb ac ysbrydoli busnesau. Bydd yr Uwchgynhadledd Diwydiant, a gynhelir rhwng 21 a 23 Mehefin 2022, yn trafod sut y gall busnesau gweithgynhyrchu yng Nghymru droi heriau ôl-Covid yn gyfleoedd drwy gydweithio â'r byd academaidd. Bydd yr uwchgynhadledd yn cael ei hagor gan Julie James, AS, y Gweinidog dros Newid...
Mae llywodraeth y DU yn cau'r cynllun grant ceir trydan i archebion newydd, o 14 Mehefin 2022, ar ôl rhoi hwb llwyddiannus i chwyldro ceir trydan y DU a chefnogi gwerthu bron hanner miliwn o geir trydan. Er mwyn parhau ag ymgyrch llywodraeth y DU tuag at sero net a sicrhau defnydd effeithiol o arian trethdalwyr, bydd £300 miliwn o gyllid grant yn cael ei ailganolbwyntio nawr ar ymestyn grantiau ceir trydan i hybu gwerthu...
Mae'r enwebiadau bellach ar agor ar gyfer Gwobrau Gwarchodwyr Parciau 2022! Mae'r ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol unwaith eto wedi ymuno â BBC Countryfile Magazine ar gyfer Gwobrau Gwarchodwyr Parciau 2022. Mae Parciau Cenedlaethol yn wynebu heriau enfawr, o effaith yr argyfwng hinsawdd i dros ddegawd o doriadau mewn cyllid, gan ei gwneud hi’n anoddach ymdopi â'r nifer uchaf erioed o ymwelwyr. Mae Gwarchodwyr Parciau yn sicrhau y gofelir am y dirwedd ac y gall mwy...
Cyllid ymchwil a datblygu ar gyfer astudiaethau dichonoldeb a threialon technoleg mewn technolegau morol glân i gyflymu datgarboneiddio morol yn y DU. Bydd yr Adran Drafnidiaeth yn gweithio gydag Innovate UK, sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesi y DU, i fuddsoddi £12 miliwn mewn astudiaethau dichonoldeb arloesol a phrosiectau cyn lleoli. Mae'r gystadleuaeth hon yn rhan o gyfres o ymyriadau i'w lansio gan UK Shipping Office for Reducing Emissions (UK SHORE). Nod UK SHORE yw...
Rydym eisiau helpu eich busnes i gyrraedd Nod Gwyrdd, enillwch hyd at £5,000 ar gyfer eich busnes neu syniad busnes newydd*. A ydych chi’n meddwl bod modd i’ch busnes fod yn wyrddach, neu a ydych chi’n ceisio cyngor i ddechrau busnes gwyrdd? Rydym yma i’ch cefnogi chi. Rydym yn cynnig gwobrau arian gwych i helpu ein henillwyr i ddechrau neu wella eu busnesau ac ychwanegu rhai camau gwyrdd. Gwobr 1af £5,000 2il Wobr £2,000 13...
Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg eleni ar 23 Mehefin 2022 a’r thema yw Dyfeiswyr ac Arloeswyr #INWED22 Eleni byddwn yn dathlu’r gwaith anhygoel y mae peirianwyr benywaidd yn ei wneud o amgylch y byd i gefnogi bywydau a bywoliaethau bob dydd ac yn portreadu’r menywod gorau, disgleiriaf a dewraf ym maes peirianneg, y dyfeiswyr a’r arloeswyr sy’n mentro bod yn rhan o’r datrysiad ac yn helpu i greu dyfodol mwy llewyrchus. Am gymryd rhan...
Drwy ddarpariaeth Rhwydwaith BFI Cymru, mae Ffilm Cymru yn comisiynu ffilmiau byr o ansawdd fyd-eang ar ffurf gweithredu byw, ffilmiau dogfen ac animeiddiadau, mewn partneriaeth â BBC Cymru Wales. Mae Beacons yn darparu cyllid yn ogystal â chymorth creadigol ac ymarferol a chyfleoedd hyfforddiant a mentora i helpu gwneuthurwyr ffilmiau i fwrw ymlaen â’u gyrfa. Mae ffilmiau byr Beacons wedi cael llwyddiant mewn gwyliau, wedi ennill nifer o wobrwyon, ac wedi’u darlledu ar BBC Cymru...
Mae Llyfr Damweiniau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn ddogfen werthfawr y gall sefydliadau ei defnyddio i gofnodi gwybodaeth am ddamweiniau. Gellir defnyddio’r Llyfr Damweiniau i gofnodi manylion yr holl ddamweiniau yn y gwaith gan gynnwys anafiadau o ddamweiniau yn y gwaith y mae'n rhaid i gyflogwyr roi gwybod amdanynt o dan Reoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus 2013 ( RIDDOR). Mae'r llyfr yn cynnwys 50 o ffurflenni cofnodi damweiniau tyllog ac...
Mae gan bob gweithiwr hawl gyfreithiol i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys staff tymhorol dros dro, sy'n aml yn gweithio contractau tymor byr mewn bariau, gwestai, siopau a warysau dros yr haf. Y cyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol fesul awr o 1 Ebrill 2022 yw: £9.50 - 23 oed neu drosodd (Cyflog Byw Cenedlaethol) £9.18 - 21 i 22 oed £6.83 - 18 i 20 oed £4.81 - dan 18 oed £4.81...
Mae Gwobrau blynyddol Ystadau Cymru yn dathlu enghreifftiau llwyddiannus o reoli asedau ar y cyd ar draws sector cyhoeddus Cymru ac rydym bellach yn croesawu enwebiadau ar gyfer Gwobrau 2022. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw rhannu eich enghreifftiau o brosiectau cydweithredu llwyddiannus sydd wedi’u cynnal ar draws ystad sector cyhoeddus Cymru, waeth beth fo’u maint. Categorïau Gwobrau 2022 yw: Creu Twf Economaidd Dangos cyfrifoldeb amgylcheddol Rhoi Gwerth Cymdeithasol Creu Arloesedd...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.