BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1181 canlyniadau

Heddiw (dydd Mercher, 25 Mai 2022), mae Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi cyhoeddi £26m i gyfyngu ar ôl troed carbon twristiaeth yng Nghymru, hybu bioamrywiaeth a gwella mynediad i gefn gwlad fel y gall pawb fwynhau ei harddwch. Gwnaeth y Gweinidog y cyhoeddiad wrth iddi agor rhwydwaith cerbydau trydan (EV) ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro – credir mai dyma'r rhwydwaith mwyaf helaeth mewn unrhyw barc cenedlaethol yn y DU gyda 74 o bwyntiau...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi un ychwanegiad arbennig i Wobr Flynyddol y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol (QAVS), i anrhydeddu Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi y Frenhines. Flynyddol y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol (QAVS), i anrhydeddu Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi y Frenhines. Mae Gwobr am Wasanaeth Gwirfoddol Jiwbilî Platinwm y Frenhines yn bellach ar agor ar gyfer ceisiadau hyd at 17 Mehefin 2022. Mae enwebiadau ar gyfer Gwobrau’r Frenhines am Waith Gwirfoddol 2023 bellach ar agor...
Hoffech chi gychwyn eich busnes eich hun, meithrin gyrfa lawrydd neu sefydlu menter gymdeithasol? Efallai eich bod eisoes ar waith, ond yn chwilio am ffyrdd o wella neu dyfu? Cynhelir Wythnos Cychwyn Busnes yr Haf, sy'n gwrs cychwyn busnes ar-lein o fri, rhwng 20 ac 24 Mehefin 2022. Cyflwynir ein cwrs ar-lein 5 diwrnod gan rai o’r entrepreneuriaid a’r arbenigwyr mwyaf disglair yng Nghymru, a bydd yn eich helpu i feithrin, datblygu a thyfu eich...
Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi “Mae gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhaglen allweddol a ariennir gan yr UE i helpu i ysbrydoli unigolion i fod yn entrepreneuraidd, a sicrhau bod microfusnesau a busnesau bach a chanolig (BBaChau) yng Nghymru yn gallu cael gafael ar wybodaeth, canllawiau a chymorth priodol ac amserol. Arferai dderbyn cymorth gan gronfeydd yr UE. Fel y gwyddoch, mae Llywodraeth y DU wedi lleihau’n sylweddol gyfanswm y cyllid...
Heddiw (24 Mai 2022), cyhoeddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt Strategaeth newydd Llywodraeth Cymru, sef Strategaeth Genedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Mae’r strategaeth yn tynnu sylw at y chwe nod y bydd y llywodraeth yn eu pennu i helpu i atal y gamdriniaeth ffiaidd sy’n wynebu menywod. Mae’r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol newydd yn amlinellu chwe nod allweddol y bydd Llywodraeth Cymru, ynghyd...
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynnal digwyddiad rhithwir rhyngweithiol am ddim ar 9 Mehefin 2022 i gefnogi busnesau adeiladu sydd â diddordeb mewn recriwtio pobl o'r carchar. Mae'r Uwchgynhadledd Recriwtio Pobl sy’n Gadael Carchar: Gweithdy Adeiladu yn gyfle i glywed yn uniongyrchol gan gyflogwyr gan gynnwys Willmott Dixon a Kier am sut y maent wedi elwa o recriwtio pobl sy'n gadael carchar a byddant yn ymdrin â phynciau gan gynnwys ymarferoldeb recriwtio pobl sy'n gadael carchar...
Yn y gweithdy datblygu cynnyrch newydd (DCN) hwn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, bydd cwmnïau bwyd a diod yn cael mynediad at fewnwelediad o’r radd flaenaf gan arweinwyr y diwydiant. Mae ymchwil Deietau’r Dyfodol yn rhoi golwg gyntaf, hirdymor ar arferion bwyta defnyddwyr dros y 10 mlynedd nesaf. Bydd hyn yn helpu busnesau i ddatblygu fframwaith cynllunio sy’n hanfodol ar gyfer DCN hirdymor a strategaeth fusnes lwyddiannus. Bydd y cynrychiolwyr yn: Deall yn fanwl y...
Mae PRIME Cymru yn rhoi cymorth am ddim i unigolion hŷn yng Nghymru sefydlu busnes, cael hyd i swydd, neu feithrin sgiliau drwy achub ar gyfleoedd hyfforddi a gwirfoddoli. Ydych chi’n ystyried dechrau eich busnes eich hun? Neu efallai eich bod chi eisoes wedi dechrau ymchwilio i’r posibilrwydd o weithio i chi’ch hun, ond bod angen ychydig o arweiniad arnoch? Gall PRIME Cymru eich helpu chi. Mae hunangyflogaeth yn aml yn ddewis addas iawn i...
Mae Cyllid Cynhyrchu Cymru Greadigol yn gynllun disgresiynol a gyflwynir drwy Gronfa Dyfodol yr Economi, lle y defnyddir cyllid cyhoeddus i gefnogi twf Cymru fel cyrchfan ar gyfer cynhyrchu cynnwys o'r radd flaenaf. Bydd y cyllid yn cefnogi cwmnïau cynhyrchu a datblygu gemau yng Nghymru sy'n awyddus i ddatblygu cynyrchiadau a fwriedir ar gyfer cynulleidfaoedd rhyngwladol. Fe'i defnyddir hefyd i ddenu cwmnïau mewnfuddsoddi o'r radd flaenaf a all hybu'r economi leol a gadael gwaddol sylweddol...
Bydd Dinas Diwylliant y Deyrnas Unedig 2025 yn cael ei datgelu’n fuan. Bydd y lleoliad buddugol yn cael ei ddewis o blith rhestr fer o 4 lle yn y Deyrnas Unedig sy’n cynnwys Bradford, Swydd Durham, Southampton a Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Sut i gymryd rhan Cyn i’r enillydd gael ei gyhoeddi, bydd Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cael sylw trwy sianeli cyfryngau cymdeithasol yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) ar ddydd Llun 23 Mai...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.