BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1221 canlyniadau

“Unigrwydd” yw thema Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni. Mae unigrwydd yn effeithio ar filiynau o bobl yn y DU bob blwyddyn ac yn cael effaith enfawr ar ein hiechyd meddwl yn ystod y pandemig. Cynhelir yr wythnos rhwng dydd Llun 9 Mai a dydd Sul 15 Mai 2022 a bydd yn codi ymwybyddiaeth o effaith unigrwydd ar ein lles meddyliol, ynghyd â’r camau ymarferol y gallwn eu cymryd i fynd i’r afael â’r mater. Am...
Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd datganiad ysgrifenedig. Yn gynharach y mis hwn, llofnodais Orchymyn Cyflogau Amaethyddol 2022. Mae'r Gorchymyn yn gwneud rhai newidiadau sylweddol i'r fframwaith Isafswm Cyflog Amaethyddol. Mae'r newidiadau hyn yn seiliedig ar argymhellion Panel Cynghori Amaethyddol Cymru i symleiddio a moderneiddio'r Gorchymyn, ac maent yn cynnwys: strwythur graddio a disgrifiadau graddau newydd; newidiadau i'r cyfraddau cyflog a lwfansau isaf; dileu'r Rhestrau cymwysterau sydd wedi dyddio...
Mae pecynnau adnewyddu blynyddol yn cael eu hanfon allan gan Gyllid a Thollau EM (CThEM). Bydd y pecynnau'n cael eu hanfon allan hyd at 27 Mai 2022, ac mae gan gwsmeriaid tan 31 Gorffennaf 2022 i wirio bod eu manylion yn gywir a diweddaru Cyllid a Thollau EM os bu newid yn eu hamgylchiadau. Mae credydau treth yn helpu teuluoedd sy'n gweithio gyda chymorth ariannol wedi'i dargedu, felly mae'n bwysig nad yw pobl yn colli...
Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Wavehill i gynnal ymarfer mapio ar gyfer y sector Gweithgynhyrchu yng Nghymru. Bydd y gwaith hwn yn helpu Llywodraeth Cymru i ddeall iechyd ac anghenion y sector yn well, ac yn llywio cymorth yn y dyfodol. Bydd y gwerthusiad hefyd yn helpu i gyflawni pwyntiau gweithredu penodol a amlinellir yn y Cynllun Gweithredu Gweithgynhyrchu (MAP) sy'n anelu at sicrhau y gall y sector gweithgynhyrchu helpu i gefnogi economi ffyniannus, economi...
Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi na fydd y rheolaethau mewnforio ar nwyddau'r UE sy'n weddill yn cael eu cyflwyno eleni mwyach. Yn hytrach, bydd masnachwyr yn parhau i symud eu nwyddau o'r Undeb Ewropeaidd i Brydain Fawr fel y maen nhw nawr. Mae ymosodiad anghyfreithlon Rwsia ar yr Wcráin, a'r cynnydd diweddar mewn costau ynni byd-eang, wedi cael effaith sylweddol ar gadwyni cyflenwi sy'n dal i adfer yn dilyn y pandemig. Felly, mae llywodraeth...
Byddai greddf naturiol yn dweud wrth rywun nad nawr, wrth i’r storm ruo o’n cwmpas, yw’r adeg iawn i ddechrau busnes. Mae gwariant cyffredinol yn llawer is ac efallai nad yw rhwyd diogelwch y “Cynllun wrth gefn” o “allu mynd yn ôl i fyd cyflogaeth yn gyflym” mor syml ag yr arferai fod. Rwy’n deall hynny. Ond mae mwy iddi na hynny, does bosib? Rydym yn gweld bod yr oes COVID-19 hon yn arwain at...
Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru cyntaf erioed yn 2019, dyma ddiwrnod allan gyda gwahaniaeth – diwrnod na fydd unrhyw ffermwr neu goedwigwr eisiau ei golli! Pryd: 15 Mehefin 2022 Ble: Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-muallt, Powys, LD2 3SY Bydd cyfres o brif siaradwyr a chyflwynwyr rhyngwladol yn rhannu eu profiadau a'u safbwyntiau, gan gynnig cymorthfeydd un-i-un, gweithdai a seminarau ar bynciau sy'n ymwneud ag amaeth, gan gynnwys: Arloesi – ffyrdd...
Mae Spar wedi lansio cynllun Arian Yn ôl Cymunedol gwerth £100,000 a fydd yn rhoi grantiau i elusennau lleol yn ogystal â grwpiau gwirfoddol a chymunedol. Gall cwsmeriaid Spar wneud cais am grant ar gyfer sefydliad neu elusen y maent yn teimlo y byddai'n elwa o’r cyllid. Ydych chi'n gwybod am sefydliad sy'n haeddu cyllid? Gwnewch gais yma drwy rannu'r cyfraniad eithriadol y maent wedi'i wneud i'r gymuned leol ac ar gyfer beth y byddai'r...
Ers lansio Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) 2019-22 yn 2019 bu newid aruthrol yn y ffordd mae pobl yn gweithio a’r mathau o swyddi sy’n cael eu cynnig. Yn bwysicach, bu newid arwyddocaol yn y sgiliau mae eu hangen bellach ar ddiwydiant i yrru eu busnesau yn eu blaen mewn byd ôl-pandemig. Mae’r adegau cythryblus dros y ddwy flynedd diwethaf wedi golygu bod sgiliau newydd wedi cael eu hadnabod fel gofyniad allweddol ar...
Bydd y DU yn dathlu 70 mlwyddiant o deyrnasiad Ei Mawrhydi y Frenhines gyda phenwythnos o ddathliadau. Bydd Penwythnos Gŵyl y Banc mis Mai yn cael ei symud i ddydd Iau 2 Mehefin a bydd Gŵyl Banc ychwanegol ddydd Gwener 3 Mehefin yn gweld penwythnos pedwar diwrnod i ddathlu Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi y Frenhines. Bydd medal Jiwbilî yn cael ei chreu a'i dyfarnu i weithwyr gwasanaethau cyhoeddus. Cynnwys cysylltiedig: UK bank holidays - GOV.UK...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.