BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1241 canlyniadau

Mae’r Rhaglen i Ddarpar Arweinwyr wedi’i chynllunio gan ddilyn amcan Gweinidogion i gynyddu amrywiaeth ymhlith aelodau o fyrddau cyrff cyhoeddus, a hynny’n unol â’r strategaeth a nodir yn ‘Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru – Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru’. Y nod yw creu cyflenwad cadarn o ddarpar aelodau bwrdd, gan sicrhau bod unigolion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol a phobl anabl o safon uchel a chanddynt arbenigedd a sgiliau da, ac...
Mae’n bleser gan SmallBusiness.co.uk gyhoeddi bod enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Busnes Prydain 2022! Nawr yn eu pumed flwyddyn, mae’r gwobrau yn cydnabod a dathlu cyflawniadau arloesol a rhagorol busnesau bach a chanolig o Brydain ymhob diwydiant. Mae Gwobrau Busnes Prydain yn cynnig y cyfle i chi a’ch cydweithwyr gael y gydnabyddiaeth rydych chi’n ei haeddu yn eich diwydiant ac ym mhob cwr o’r wlad. Mae’r gwobrau hyn ar gael i unrhyw fusnes yn y...
Dyma'r amser i newid y cyfan — yr hinsawdd fusnes, yr hinsawdd wleidyddol, a sut rydym yn gweithredu ar yr hinsawdd. Dyma'r amser i'r dewrder diatal i gynnal a diogelu ein hiechyd, ein teuluoedd, a'n bywoliaeth. Ar gyfer Diwrnod y Ddaear 2022, sy'n digwydd ar 22 Ebrill, mae angen i ni weithredu (yn feiddgar), arloesi (yn eang), a gweithredu (yn deg). Mae angen i ni gyd gymryd rhan. Pob un ohonom. Busnesau, llywodraethau a dinasyddion...
Mae rhifyn mis Ebrill o'r Bwletin Cyflogwyr yn rhoi'r holl ddiweddariadau a chanllawiau diweddaraf i chi gan CThEM i gefnogi cyflogwyr, gweithwyr cyflogres proffesiynol ac asiantau. Yn y rhifyn hwn, mae diweddariadau pwysig ar: wybodaeth coronafeirws (COVID-19) am hawddfreiniau sy'n dod i ben terfynau amser cytundeb setlo TWE rhoi gwybod am dreuliau a budd-daliadau ar gyfer y flwyddyn dreth sy'n dod i ben ar 5 Ebrill 2022 hawlio lwfans cyflogaeth o fis Ebrill 2022 busnesau...
Mae Lynne Neagle AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn annog teuluoedd cymwys i ymuno â’r cynllun Cychwyn Iach i’w galluogi i gael bwyd iach a fitaminau am ddim. Gall teuluoedd gael cerdyn wedi’i ragdalu, yr ychwanegir credyd iddo bob pedair wythnos, i brynu bwyd iach – ffrwythau, llysiau, codlysiau, llaeth a fformiwla babanod. Gallant hefyd gael fitaminau Cychwyn Iach am ddim. Ar hyn o bryd, nid yw bron i 40% o bobl...
Mae cystadleuaeth grant newydd gan Lywodraeth y DU yn cael ei lansio i hybu twf busnesau technoleg arloesol newydd a’r rhai sy’n tyfu ym mhob cwr o'r wlad. Bydd y Grant Twf Digidol gwerth £12.09 miliwn yn canolbwyntio ar agor mynediad at hyfforddiant a chyngor ar sgiliau, a darparu gwasanaethau cymorth i'r sector digidol a thechnoleg dros ddwy flynedd. Mae gwella rhwydweithiau cymorth rhanbarthol ar gyfer busnesau newydd a busnesau sy’n tyfu yn ffocws allweddol...
Cynhelir Prif Ddigwyddiad Caffael Sector Cyhoeddus Cymru ar 8 Tachwedd 2022. Gan gysylltu prynwyr a chyflenwyr ar draws y gadwyn gyflenwi caffael, bydd Procurex Cymru yn darparu cyfoeth o gyfleoedd datblygu sgiliau, rhwydweithio, cydweithio ac arddangos cynnyrch i sefydliadau sy’n gweithio’n frwd gyda’r sector cyhoeddus, neu sy’n chwilio am ffyrdd o weithio ar draws marchnad gaffael Cymru a thu hwnt. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Procurex.
Eleni, mae Cymru'n dathlu 10 mlynedd ers agor ei llwybr arfordirol 870 milltir yn swyddogol – y cyntaf o'i fath yn y byd. I nodi'r achlysur, mae Llwybr Arfordir Cymru wedi ymuno â Cadw – i ddod â chyfres o 20 o deithiau cerdded i chi ddarganfod treftadaeth Cymru ar hyd y llwybr eiconig. Mae’r teithiau, sy’n addas ar gyfer pobl o bob oed a gallu, yn amlinellu'r llwybrau gorau i ddarganfod 16 o gestyll...
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud ei bod yn bwysig parhau i wneud y pethau syml i ddiogelu iechyd y cyhoedd i reoli lledaeniad y coronafeirws. Soniodd am bum peth hawdd y gallwn ni i gyd eu gwneud, gan gynnwys aros gartref os oes gennym symptomau’r coronafeirws. Daw ei sylwadau ar ôl i Lywodraeth Cymru gynnal yr adolygiad tair wythnos diweddaraf o’r rheoliadau coronafeirws. Bydd y gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau...
Os ydych chi'n fusnes bach i ganolig newydd sy'n gwerthu cynnyrch ffisegol arloesol i ddefnyddwyr, gwnewch gais heddiw am Wobrau Arloesedd Amazon Launchpad am gyfle i ennill €100,000 a mwy. Gwiriwch fod pob un o'r canlynol yn wir am eich busnes. Os felly, llongyfarchiadau – rydych yn gymwys i wneud cais! Rydych chi'n fusnes sydd wedi’i gofrestru mewn gwlad AEE (Ardal Economaidd Ewropeaidd), y DU neu'r Swistir. Rydych chi'n gwerthu cynnyrch ffisegol i ddefnyddwyr, nid...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.