BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1291 canlyniadau

O Orffennaf 2022, bydd angen cynnal archwiliadau ffisegol ac adnabod ac archwilio tystysgrifau a dogfennau ar gynnyrch anifeiliaid sy’n cael eu mewnforio i Brydain Fawr o’r Undeb Ewropeaidd. Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) Llywodraeth y DU am roi gwybodaeth i fusnesau cyn bod y mesurau rheoli mewnforion yn cael eu cyflwyno ym mis Gorffennaf. Bydd Defra’n cynnal cyfres o weminarau a sesiynau holi ac ateb fydd yn rhoi gwybodaeth fanwl am...
Mae angen i chi gofrestru ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig os ydych chi wedi gweithgynhyrchu neu fewnforio 10 neu ragor o dunelli o gydrannau pecynnau plastig gorffenedig yn ystod y 12 mis diwethaf, neu os byddwch chi’n gwneud hynny yn ystod y 30 diwrnod nesaf. Rhwng 1 Ebrill 2022 a 30 Mawrth 2023, bydd y trothwy 12 mis yn cael ei gyfrifo’n wahanol, Dim ond gwneuthurwyr a mewnforwyr cydrannau pecynnau plastig sy’n cynnwys...
Mae rheolaethau tollau llawn bellach ar waith ar gyfer masnachu rhwng Prydain Fawr (Cymru, yr Alban a Lloegr) a'r Undeb Ewropeaidd (UE). Mae hyn yn golygu y bydd angen datganiadau tollau llawn a thalu’r tariffau perthnasol ar bob nwydd sy'n cael ei fewnforio gan eich cleient o'r UE, ar adeg mewnforio. Symud nwyddau rhwng Iwerddon a Phrydain Fawr Bydd y trefniadau presennol yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer nwyddau nad ydynt yn cael...
Mae Innovate UK yn cynnig hyd at £25 miliwn mewn benthyciadau i fentrau meicro, bach a chanolig. Mae’r benthyciadau ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu arloesol iawn sydd wedi cyrraedd cam hwyr yn y broses ac sydd â’r potensial gorau ar gyfer y dyfodol. Dylid cael llwybr clir i fasnacheiddio ac effaith economaidd. Bydd y benthyciadau yn cefnogi prosiectau arloesol sydd â’r potensial cryfaf i gefnogi twf economaidd yn y dyfodol a mynd i’r afael...
Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol, gŵyl ddiwylliannol fwya'r wlad, yn Nhregaron, Ceredigion rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst 2022. Er mai cystadlu yw calon yr ŵyl, a’i bod yn denu dros 6,000 o gystadleuwyr bob blwyddyn, mae'r Maes ei hun wedi tyfu a datblygu'n ŵyl fywiog gyda channoedd o ddigwyddiadau a gweithgareddau i'r teulu cyfan. Mae'r Brifwyl yn denu tua 150,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, felly bachwch ar y cyfle hwn i hyrwyddo'ch busnes i gynulleidfa...
Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mwy na £4 miliwn dros y flwyddyn nesaf i helpu busnesau o Gymru i ddod o hyd i gyfleoedd allforio newydd mewn marchnadoedd byd-eang, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw: buddsoddiad o £4 miliwn mewn rhaglenni i greu allforwyr newydd ac i helpu busnesau sy’n allforio eisoes i dyfu ac ehangu i farchnadoedd newydd dramor cyhoeddi rhaglen newydd o ddigwyddiadau rhyngwladol, gan gynnwys teithiau masnach i Ogledd America ac...
Cynhelir y Diwrnod Ailgylchu Byd-eang ddydd Gwener 18 Mawrth, a'r thema eleni yw #ArwyrAilgylchu. Mae'n cydnabod y bobl, y lleoedd a'r gweithgareddau sy'n dangos sut mae'r Seithfed Adnodd ac ailgylchu yn cyfrannu at blaned amgylcheddol sefydlog a dyfodol gwyrddach i bawb. Bob blwyddyn, mae'r Ddaear yn cynhyrchu biliynau o dunelli o adnoddau naturiol a ddaw i ben, rhywbryd yn y dyfodol agos. Dyna pam fod yn rhaid i ni feddwl eto am yr hyn rydyn...
Mae Gwobrau Cyllid Cymru wedi’u llunio i adnabod, denu a buddsoddi yn y gweithwyr proffesiynol a thalentog sy’n gweithio ym maes cyllid yng Nghymru. Dyma’r categorïau eleni: Prif Swyddog Ariannol/Cyfarwyddwr Cyllid y Flwyddyn (dros £25 miliwn) Prif Swyddog Ariannol/Cyfarwyddwr Cyllid y Flwyddyn (hyd at £25 miliwn) Cyfarwyddwr Cyllid Ifanc y Flwyddyn Rheolwr Cyllid y Flwyddyn Cyfrifydd y Flwyddyn Technegydd Cyfrifon y Flwyddyn Seren Newydd y Flwyddyn Tîm Cyllid (Gwasanaethau Ariannol) Y Flwyddyn Tîm Cyllid Bach...
Mae tua 420,000 o bobl anabl o oedran gweithio yng Nghymru, sy’n golygu bod cronfa enfawr o dalent heb ei chyffwrdd yn aros i lenwi eich swyddi gwag. Ymunwch â’r weminar fer hon i gael cyngor arbenigol am ddim ar sut mae creu gweithlu amrywiol yn gallu cynyddu ceisiadau o safon ar gyfer eich swyddi gwag, a chreu gweithlu cynhwysol sy’n adlewyrchu amrywiaeth eich cwsmeriaid. Manylion y Digwyddiad; Pryd: Dydd Iau, 7 Ebrill 2022, 10:00am...
Mae Canolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol Prydain (NCSC) yn cynghori sefydliadau i fanteisio ar y cyfle i gryfhau gwydnwch seiber, wrth i’r bygythiad seiber gynyddu. Gallai hynny olygu mesurau technegol, ond mwy o graffu a gwyliadwriaeth hefyd, sicrhau bod systemau'n cael eu clytio a'u diweddaru, ac atgoffa staff o arferion da gydag e-byst ac ymosodiadau gwe-rwydo. Am ragor o wybodaeth, ewch i: NCSC advises organisations to act following Russia’s... - NCSC.GOV.UK Mae cyfoeth o gyngor ac arweiniad...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.