Heddiw (7 Tachwedd 2023), bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, yn cyhoeddi'r cynllun cymorth morgeisi, Cymorth i Aros Cymru, pecyn ariannu newydd ar gyfer perchnogion tai yng Nghymru sy'n cael anhawster talu eu morgais. Gan fod cyfraddau llog, costau ynni, a chostau byw yn codi, mae methu â thalu ad-daliadau morgais yn realiti sy'n wynebu llawer o berchnogion cartrefi. Yn rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, gwnaed ymrwymiad i edrych...