BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1371 canlyniadau

Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer Gwobrau Bwyd a Diod Cymru 2022, a gynhelir yng Nghaerdydd ar 13 Mai 2022. Bydd y gwobrau cenedlaethol yn darparu llwyfan i ddathlu cynhyrchwyr a chyflenwyr o Gymru. Byddant yn amlygu amrywiaeth y sector, ac yn tynnu sylw at fusnesau llwyddiannus sy'n tyfu, yn creu cyflogaeth ac yn llwyddo i ysbrydoli eraill. Dyma'r categorïau eleni: Busnes Newydd y Flwyddyn Entrepreneur y Flwyddyn Allforiwr y Flwyddyn Prentis y Flwyddyn...
Bydd Wythnos Cymru yn Llundain yn cael ei chynnal yn ystod wythnos Dydd Gŵyl Dewi yn Llundain. Digwyddiad blynyddol yw hwn, lle cynhelir gweithgareddau a digwyddiadau i ddathlu a hybu popeth sy’n wych am Gymru. Mae calendr o ddigwyddiadau wedi’i drefnu rhwng 20 Chwefror a 6 Mawrth 2022, gyda chyfleoedd gwych ar gyfer arddangoswyr a noddwyr. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Wythnos Cymru yn Llundain
Mae adolygiad technegol manwl wedi’i gwblhau o’r cynllun Cyber Essentials, a fydd yn helpu sefydliadau i sicrhau bod data pwysig yn cael ei drin yn ddiogel a bod eu rhwydweithiau yn ddiogel hefyd. Mae’r cynllun Cyber Essentials yn cael ei ddatblygu gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol – rhan o GCHQ – a’i gyflwyno gan IASME. Mae’n gynllun ardystio sy’n cynorthwyo sefydliadau o bob maint i’w diogelu eu hunain yn erbyn bygythiadau ar-lein a dangos ymrwymiad...
Mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, wedi cyhoeddi ar ddechrau Wythnos Prentisiaethau Cymru 2022 y bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau pob oed ledled Cymru yn ystod tymor y llywodraeth hon. Dywedodd y Gweinidog y bydd y buddsoddiad mawr hwn yn helpu i gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod o leiaf 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru mewn addysg, cyflogaeth...
Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o £25 miliwn ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu cyfnod hwyr sy’n helpu i gyflymu cynnydd y DU tuag at ddyfodol modurol sero net. Mae’r Advanced Propulsion Centre (APC) yn darparu cyllid, cymorth a mewnwelediad ar ddatblygu technolegau modurol carbon isel a sero net. Ei nod yw cefnogi pontio’r DU tuag at weithgynhyrchu cynhyrchion a chadwyn gyflenwi sero net yn sector modurol y...
Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) wedi agor ffenestr cystadleuaeth Cam 2: Gwanwyn 2022. Gall busnesau yng Nghymru nawr gynnig am gyfran o hyd at £60 miliwn mewn cyllid grant drwy ffenestr cystadleuaeth, bydd y gystadleuaeth ar agor i geisiadau o ddydd Llun 31 Ionawr 2022 tan ddydd Gwener 29 Ebrill 2022. I weld y canllawiau ar wneud cais a chyflwyno cais am gyllid, ewch i dudalen cystadleuaeth GOV.UK. Bydd y gystadleuaeth yn...
Bydd Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn cael ei ddathlu’n fyd-eang ym mis Chwefror bob blwyddyn i hyrwyddo'r defnydd diogel a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol, yn arbennig ymhlith plant a phobl ifanc. Bydd tua 140 o wledydd ledled y byd yn ei ddathlu. Bydd Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2022 yn cael ei gynnal ar 8 Chwefror a’r thema yw ‘Hwyl a sbri i bawb? Archwilio parch a pherthynas ar-lein’, yn awyddus i...
I gefnogi a chyflymu’r broses o ddigidoleiddio’r diwydiant gweithgynhyrchu, mae Innovate UK KTN yn gweithio gyda UKRI i sbarduno arloesi er mwyn cefnogi mabwysiadu technoleg ddigidol drwy Made Smarter Innovation. Bydd gweminarau Rhwydwaith Made Smarter Inovation yn arddangos teithiau gwneuthurwyr sydd wedi bod yn arloesol yn y ffordd maen nhw wedi mabwysiadu technolegau digidol i wella perfformiad, ynghyd â darparwyr technoleg ddigidol, gan greu datrysiadau arloesol creadigol i gefnogi taith y gwneuthurwr. Bydd y gyfres...
Grant i ariannu costau gosod cysylltiadau band eang newydd mewn cartrefi a busnesau, neu ariannu’r costau hynny’n rhannol. Mae'r cynllun hwn yn darparu grantiau i ariannu (neu ariannu’n rhannol) costau gosod cysylltiadau band eang newydd mewn cartrefi a busnesau yng Nghymru. Nid yw'n cynnwys costau rhentu misol. Cyn ystyried y cynllun hwn, defnyddiwch declyn gwirio cyfeiriadau Openreach i gael gwybod a oes gennych fynediad eisoes at wasanaeth band eang cyflym. Mae yna gyflenwyr eraill sy’n...
Sioeau Busnes Cymru yw'r arddangosfa fwyaf yng Nghymru ar gyfer busnesau - mae’n cynnwys tair sioe genedlaethol. Mae'r sioeau'n darparu llwyfan i fusnesau o bob maint arddangos eu cynnyrch a'u gwasanaethau. Mae’r sioeau’n gyfle i chi ddysgu technegau busnes newydd, gwrando ar brif siaradwyr sy’n ysbrydoli, cael cyngor arbenigol, cael gwybodaeth gan gynrychiolwyr ac arddangoswyr eraill a gwella cysylltiadau busnes drwy rwydweithio. Dyddiadau a lleoliadau eleni yw: 5 Ebrill 2022 – Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.