Cafodd y darn cyntaf o ddeddfwriaeth caffael benodol i Gymru Gydsyniad Brenhinol ar 24 Mai. Mae'r Ddeddf yn ceisio gwella llesiant pobl Cymru drwy wella gwasanaethau cyhoeddus, gan weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, hyrwyddo gwaith teg a sicrhau chaffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol. O ran caffael, mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus penodol i ystyried caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol, gosod amcanion mewn perthynas â nodau llesiant, a chyhoeddi strategaeth gaffael. Mae hefyd yn ei...