BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1621 canlyniadau

Hoffai Dr Steve Wyatt, Cyfarwyddwr RDI yn y Catapwlt Ynni Adnewyddadwy ar y Môr a Chadeirydd Clwstwr Gwynt Arnofiol y Môr Celtaidd, eich gwahodd i lansiad rhithwir am ddim Clwstwr y Môr Celtaidd. Bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu ar ffrwd byw ar Teams o Westy Voco St Davids, Caerdydd. Ychydig iawn o bobl sy’n cael bod yn bresenol yn y digwyddiad byw oherwydd cyfyngiadau COVID ac mae'n ôl disgresiwn y trefnydd. Yn y...
Mae Llywodraeth y DU wedi nodi amserlen newydd ar gyflwyno rheolaethau mewnforio llawn ar gyfer nwyddau o'r UE i'r DU. Bydd datganiadau a rheolaethau tollau llawn yn cael eu cyflwyno ar 1 Ionawr 2022 fel y cyhoeddwyd yn flaenorol, er na fydd angen datganiadau diogelwch tan 1 Gorffennaf 2022. O dan yr amserlen ddiwygiedig: Bydd y gofynion rhaghysbysu am nwyddau iechydol a ffytoiechydol (SPS), a oedd i fod i gael eu cyflwyno ar 1 Hydref...
Bydd rhaid i bobl ddangos Pàs COVID y GIG i fynd i glybiau nos a digwyddiadau yng Nghymru o fis nesaf ymlaen, cyhoeddodd y Prif Weinidog heddiw. Mae'r mesur yn cael ei gyflwyno i helpu i reoli lledaeniad y coronafeirws. Mae’r achosion yn uchel iawn yng Nghymru ar hyn o bryd, ond bydd y lefel rhybudd yn parhau ar sero am y tair wythnos nesaf. Wrth gyhoeddi canlyniad yr adolygiad tair wythnos diweddaraf o'r rheoliadau...
‘Mae 'cylchogrwydd' neu ‘circularity’ yn dod yn air poblogaidd yn y diwydiant ffasiwn. Ond beth mae'n ei olygu i fusnesau ffasiwn a thecstilau? Sut mae cylchogrwydd yn cyd-fynd â sgyrsiau ehangach am fusnesau cynaliadwy a chyfrifol? Ymunwch ag arbenigwyr o dîm Tecstilau 2030 WRAP mewn gweminar sy'n egluro beth mae cylchogrwydd yn ei olygu i fusnesau ffasiwn a thecstilau, gan gynnwys: Pwysigrwydd cylchogrwydd wrth ddatblygu strategaeth gynaliadwyedd gadarn Sut mae cylchogrwydd yn allweddol i gyflawni...
Mae'r Rhaglen Clwstwr Allforio yn un o gyfres o fentrau cymorth newydd sy'n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Gynllun Gweithredu Allforio Cymru, sy'n anelu at greu sector allforio cryf, bywiog a chynaliadwy i helpu i gryfhau'r economi, diogelu swyddi a chyfleoedd newydd i bobl yng Nghymru. Ei nod yw sbarduno twf allforion Cymru yn y tymor hwy, gan gynyddu'r cyfraniad y mae allforion yn ei wneud i economi Cymru, gan gynnwys...
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (RWAS) wedi cyhoeddi y bydd y Ffair Aeaf yn dychwelyd i Faes y Sioe Llanelwedd eleni fel digwyddiad deuddydd ar 29 a 30 Tachwedd 2021. Ar ôl methu cynnal digwyddiad ar Faes y Sioe Fawr ers Ffair Aeaf 2019 oherwydd pandemig y Coronafeirws, mae'r Gymdeithas yn edrych ymlaen at groesawu arddangoswyr ac ymwelwyr i Ffair Aeaf Frenhinol Cymru 2021. Unwaith eto, bydd y Ffair Aeaf yn arddangos y stoc gorau...
Mae BOSS (Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein) yma i'ch helpu chi a'ch busnes i ddatblygu drwy ddysgu ar-lein. Mae pob cwrs wedi'i greu gan arbenigwyr cymwys, profiadol i sicrhau eich bod yn cael y profiad dysgu ar-lein gorau posib. Gallwch ddefnyddio BOSS ar unrhyw ddyfais, boed yn ffôn symudol, yn ddyfais tabled neu'n gliniadur, unrhyw le 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Os oes angen help arnoch 'Datblygu Eich Syniad Busnes' yna cofrestrwch ar...
Bydd profion gyrru HGV yn cael eu hailwampio, gyda gyrwyr yn gorfod sefyll 1 prawf yn unig i yrru lori anghymalog a chymalog, yn hytrach na sefyll 2 brawf gwahanol (3 wythnos ar wahân). Bydd profion yn cael eu byrhau hefyd drwy ddileu’r elfen ‘ymarfer gyrru am yn ôl’ – a’r ymarfer ‘datgysylltu ac ailgysylltu’ i gerbydau â threlar – gan eu cynnal fel prawf ar wahân gan drydydd parti. Mae’r rhan hon o’r prawf...
Mae cynllun cyflogres moesegol newydd yn caniatáu i weithwyr fenthyg ac arbed arian yn hawdd. Mae Moneyworks Cymru yn gydweithrediad o 10 cwmni cydweithredol ariannol blaenllaw ac fe'i cefnogir gan Lywodraeth Cymru a TUC Cymru. Ymhlith y busnesau sydd eisoes yn cynnig Moneyworks Cymru mae Legal and General, Airbus, Admiral. Nod Moneyworks Cymru, cynllun cyflog newydd a lansiwyd y mis hwn, yw helpu gweithwyr ledled Cymru i adeiladu dyfodol ariannol gwell. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru...
Cynhelir Wythnos Ailgylchu rhwng 20 a 26 Medi 2021, a dyma’r ymgyrch ailgylchu flynyddol genedlaethol fwyaf, nawr yn ei ddeunawfed flwyddyn! Mae gan ailgylchu rôl hanfodol wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd. Defnyddir 95% yn llai o ynni i wneud cynhyrchion o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu na defnyddio deunyddiau crai. Mae’n rhywbeth syml y gall pawb ei wneud i wneud gwahaniaeth go iawn. Mae’r ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha yn cefnogi thema Wythnos Ailgylchu eleni i...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.