BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1751 canlyniadau

Ymunwch â Busnes yn y Gymuned (BITC) Cymru am weminar ryngweithiol yn ymwneud â gwreiddio diben a gwerthoedd yn eich sefydliad, sy’n cael ei gynnal ar 13 Gorffennaf 2021 rhwng 11am a 12pm. Mae’r weminar hon yn gyfle i glywed gan rai o aelodau BITC am y camau ymarferol maen nhw wedi’u cymryd ar eu teithiau busnes cyfrifol, gan gynnwys y llwyddiannau a’r heriau a ddaeth i’w rhan. Dyma’r gyntaf mewn cyfres o weminarau, gyda...
Bydd Innovate UK, rhan o UK Research and Innovation, yn buddsoddi hyd at £460,000 mewn arloeswyr ifanc gyda’r gystadleuaeth hon. Gall pobl ifanc wneud cais am ddyfarniad i roi syniad busnes ar waith, sy’n cynnwys grant o £5,000, lwfans byw, a chymorth busnes wedi’i deilwra. Nod y gystadleuaeth hon yw dod o hyd i grŵp newydd o arloeswyr ifanc a all droi eu syniadau gwych yn fusnesau llwyddiannus. Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i ymgeiswyr...
Mae cyfraith iechyd a diogelwch yn ei gwneud hi'n ofynnol cadw golwg ar iechyd ar gyfer rhai risgiau iechyd. Mae cadw golwg ar iechyd yn gynllun o wiriadau iechyd a gynhelir yn rheolaidd i nodi afiechydon a achosir gan waith. Mae cyfraith iechyd a diogelwch yn ei gwneud hi'n ofynnol i chi gadw golwg ar iechyd pan fydd eich gweithwyr yn parhau i wynebu risgiau i iechyd ar ôl i chi roi rheolaethau ar waith...
Hawliwch y pumed grant os ydych yn credu y bydd coronafeirws (COVID-19) yn effeithio ar elw eich busnes rhwng 1 Mai a 30 Medi 2021. Os ydych yn gymwys ar sail eich Ffurflenni Treth, bydd CThEM yn cysylltu â chi o ganol mis Gorffennaf ymlaen i roi dyddiad i chi pan fydd y gwasanaeth hawlio ar gael. Bydd yn cael ei roi i chi naill ai drwy e-bost, llythyr neu drwy’r gwasanaeth ar-lein. Bydd y...
Gellir enwebu nawr ar gyfer y gwobrau Free From Christmas (FFFAs) cyntaf. Maent yn esblygiad hirddisgwyliedig o’r Ffas, sydd â’r nod o gydnabod a dathlu cynhyrchion tymhorol. I lawer, y Nadolig yw un o ddathliadau mwyaf y flwyddyn gyda dewisiadau tymhorol yn dod yn fwyfwy pwysig i’r defnyddiwr alergaidd. O ystyried graddfa’r arloesi dros y blynyddoedd diwethaf, a’r dyhead gan gynhyrchwyr, cyflenwyr a manwerthwyr, rydym yn teimlo mai nawr yw’r amser i gydnabod a dathlu...
Mae Cronfa SE-Assist Cymru yn cynnig pecynnau cyllid cyfunol y gellir eu defnyddio i'ch helpu i dyfu, dod yn fwy cynaliadwy neu gynyddu gallu eich busnes. Mae hefyd yn cynnig mentora arbenigol i ganolbwyntio'ch cyfeiriad a'ch cynlluniau twf. Mae SE-Assist ar gyfer mentrau cymdeithasol, yn ogystal ag elusennau entrepreneuraidd, sy'n diwallu angen cymdeithasol neu amgylcheddol lleol. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn pecyn cymorth gan gynnwys: Pecyn cyllid cyfunol o fenthyciad di-log hyd at £20,000 (gyda'r...
Mae rheolau newydd yn berthnasol ar gyfer theithio a gwneud busnes â Ewrop. Defnyddiwch yr adnodd gwirio Brexit i dderbyn rhestr o gamau personol i chi, eich busnes, a’ch teulu. Mae’n rhaid i chi gymryd camau nawr os ydych chi’n: mewnforio nwyddau o’r UE allforio nwyddau i’r UE symud nwyddau i mewn neu allan o Ogledd Iwerddon teithio i’r UE byw a gweithio yn yr UE aros yn y DU os ydych chi’n ddinesydd o’r...
Ar eich taith i wireddu’ch gweledigaeth bydd yn rhaid i chi wneud nifer o benderfyniadau hanfodol. Bydd eich llwyddiant yn dibynnu’n fawr ar y llwybr y byddwch chi’n ei ddewis ym mhob achos. Fodd bynnag, mae’n debyg y bydd mwy na dau ganlyniad mewn sawl achos ac o bryd i’w gilydd bydd pawb arall yn cymryd y ffordd amlwg neu hawsaf. Mae hyn yn golygu ei bod yn annhebygol o fynd â chi ymhellach yn...
Mae’r Gwasanaeth Datrys Anghydfodau Bancio Busnes (BBRS) yn cynnig gwasanaeth annibynnol a hygyrch, yn rhad ac am ddim, i ddatrys anghydfodau rhwng busnesau cymwys a banciau sy’n cymryd rhan. Mae cynrychiolwyr busnes a’r sector bancio wedi cydweithio i lunio’r BBRS i fynd i’r afael â chwynion cyfredol gan fusnesau nad ydynt yn gymwys ar gyfer Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol, ac fel bod dewis ganddynt yn lle herio banc yn y llys. Mae gan y BBRS...
O 1 Gorffennaf 2021, bydd rheolau newydd ar gyfer gwiriadau hawl i weithio yn berthnasol. Bydd angen i ddinasyddion yr UE, yr AEE a'r Swistir ddarparu tystiolaeth o statws mewnfudo cyfreithlon yn y DU. Mewn ymateb i'r newidiadau hyn, mae'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) wedi diweddaru'r canllawiau gwirio manylion adnabod (ID) ar gyfer: Gwiriadau DBS sylfaenol, a gyflwynir drwy Sefydliad Cyfrifol. Gwiriadau DBS Safonol a Manylach. Mae’r canllawiau ar wiriad ID sylfaenol y DBS...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.