BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1841 canlyniadau

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn darparu archwiliadau data cynghorol am ddim i berchnogion sefydliadau bach, megis busnesau bach, elusennau bach, grwpiau neu glybiau ac unig fasnachwyr. Mae’r archwiliadau wedi’u teilwra i faint sefydliad a’r math o waith y mae’n ei wneud, gan ganolbwyntio’n benodol ar feysydd sy’n bwysig i gwsmeriaid, gwirfoddolwyr ac aelodau. Bydd Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth hefyd yn darparu adroddiad yn amlinellu’r hyn y mae angen i sefydliadau ei wneud i ymdrin â data...

 

 

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mai 2021
Diweddarwyd diwethaf:
12 Medi 2023
Mae’r Gronfa Gweithwyr Llawrydd yn agor ar gyfer ceisiadau am hanner dydd ddydd Llun 17 Mai 2021. Cefnogir y gronfa gweithwyr llawrydd sy’n gweithio yn y meysydd isod: Y Celfyddydau Diwydiannau Creadigol Y Celfyddydau a Threftadaeth Digwyddiadau Diwylliant a Threftadaeth Bydd y gronfa hefyd yn cefnogi gweithwyr llawrydd sy'n gweithio mewn digwyddiadau sydd wedi cael eu heffeithio’n sylweddol gan y pandemig, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio mewn priodasau a digwyddiadau corfforaethol, ond nid digwyddiadau...
A lefelau’r coronafeirws yn dal i fod yn isel a’r cyfraddau brechu yn parhau i fod yn well nag yn unrhyw ran arall o’r DU, bydd Prif Weinidog Cymru yn cadarnhau heddiw y bydd Cymru yn symud i lefel rhybudd 2 ddydd Llun. O ddydd Llun, Mai 17, bydd busnesau lletygarwch dan do yn cael ailagor, bydd lleoliadau adloniant dan do hefyd yn ailagor, a chaiff mwy o bobl fynd i gweithgareddau wedi’u trefnu dan...
Rhaglen bum mlynedd i greu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd ar gyfer y sectorau sgrin a newyddion yng Nghymru yw Clwstwr. Mae'r alwad agored hon eisiau cefnogi datblygiadau arloesol sy’n cynnig budd economaidd – yn creu, yn cynnal ac yn datblygu busnesau – ac sy'n gwneud y byd yn lle gwell (yn fwy doeth, iach, cynhwysol a diddorol). Mae Clwstwr ar gyfer busnesau, sefydliadau a gweithwyr proffesiynol y diwydiant sgrin, cadwyni cyflenwi cysylltiedig, yn ogystal...
Bydd gweminarau Rhwydwaith Arloesi Made Smarter yn rhoi sylw i deithiau gweithgynhyrchwyr sydd wedi bod yn arloesol wrth fabwysiadu technolegau digidol i wella perfformiad, ochr yn ochr â darparwyr technoleg ddigidol sydd wedi creu atebion arloesol i gynorthwyo taith y gweithgynhyrchwyr hynny. Mae’r gweminarau’n cynnwys: New Product Development – 18 Mai 2021 Quality Management – 25 Mai 2021 Mass Customisation – 1 Mehefin 2021 Circular Economy – 8 Mehefin 2021 Design for Manufacture – 15...
Horizon Ewrop sy'n olynu Horizon 2020 fel rhaglen ymchwil ac arloesi flaenllaw nesaf yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n cael ei chynnal rhwng 2021 a 2027 gyda chyllideb gwerth tua €100 biliwn. Gan fod y DU yn Wlad Gysylltiedig, gall ymchwilwyr, busnesau a sefydliadau eraill yng Nghymru gymryd rhan yn Horizon Ewrop ar delerau cyfatebol i rai’r aelod-wladwriaethau. Mae cyfleoedd ymgeisio cyntaf Horizon Ewrop ar agor ac mae sefydliadau'r DU yn gymwys i wneud cais. Am ragor...
Bydd busnesau yng Nghymru sy’n parhau i gael eu heffeithio gan gyfyngiadau’r coronafeirws yn gallu hawlio hyd at £25,000 yn rhagor o gefnogaeth i helpu i dalu costau parhaus. Bydd y pecyn cymorth diweddaraf hwn yn helpu'r busnesau hynny sy'n parhau i gael eu heffeithio gan gyfyngiadau, i dalu costau parhaus hyd at ddiwedd mis Mehefin wrth iddynt baratoi ar gyfer ailagor ac amodau masnachu mwy arferol. Mae’r busnesau a all elwa’n cynnwys y canlynol...
Ar gyfer busnesau gyda 10 neu fwy o weithwyr Bydd y gefnogaeth i brofion asymptomatig rheolaidd mewn gweithleoedd yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn canolbwyntio ar weithleoedd gyda mwy na 10 o weithwyr nad ydynt yn gallu gweithio gartref. Dylid cyflwyno ymholiadau cychwynnol a datganiadau o ddiddordeb ar brofion yn y gweithle i fewnflwch Profion COVID-19 yn y gweithle: COVID19.ProfiYnYGweithle@llyw.cymru Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfres o weminarau dros yr wythnosau...
Gall Coronafeirws (COVID-19) achosi symptomau sy’n para wythnosau neu fisoedd i rai ar ôl i’r haint fynd. Yn aml defnyddir y term COVID hir ar gyfer hyn ac mae’n cael effaith ar fusnesau wrth i weithwyr sydd wedi’u heffeithio geisio dychwelyd i’r gwaith. Mae ACAS wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer cyflogwyr am yr effaith y gallai Covid hir ei chael ar weithwyr. Mae’r canllawiau yn rhoi arweiniad ymarferol i gyflogwyr ar reoli gwahanol effeithiau'r cyflwr...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.