BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1871 canlyniadau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bydd chwe unigolyn yn gallu cyfarfod yn yr awyr agored yng Nghymru o ddydd Sadwrn 24 Ebrill 2021 a bydd lletygarwch awyr agored yn cael ailagor o ddydd Llun 26 Ebrill 2021. Ddydd Llun 26 Ebrill 2021: Bydd atyniadau awyr agored, gan gynnwys ffeiriau a pharciau thema, yn ailagor. Gall lletygarwch yn yr awyr agored yn ailddechrau, gan gynnwys caffis, tafarndai a bwytai. Bydd lletygarwch dan do yn parhau ar...
Mae hawliadau o dan y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS) bellach ar agor ar gyfer cyfnodau tâl ym mis Ebrill 2021. Mae'r hawliadau ar gyfer mis Mawrth bellach ar gau, ond os gwelwch chi fod angen i chi wneud newid am na wnaethoch chi hawlio digon, gallwch wneud hyn tan ddydd Sadwrn 28 Ebrill 2021. Rhaid i chi gyflwyno'ch hawliad ar gyfer mis Ebrill 2021 erbyn 14 Mai 2021. Dyma'r dyddiadau hawlio...
Bydd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach eleni yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 4 Rhagfyr 2021. Yn 2020, fe wnaeth y genedl ymdrech enfawr i gefnogi busnesau bach gan wario swm anhygoel o £1.1 biliwn mewn busnesau bach ar y diwrnod, y swm mwyaf erioed. Y bwrid yw cefnogi, hyrwyddo ac ysbrydoli busnesau bach gydol y flwyddyn. Anogir pob mathau o fusnesau bach i gymryd rhan, felly p’un ai ydych chi’n fusnes teuluol, yn...
Os ydych chi'n gymwys, ar sail eich ffurflenni treth, i hawlio SEISS (y Cynllun Cymorth Incwm i'r Hunangyflogedig), bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cysylltu â chi ganol mis Ebrill i roi dyddiad i chi ar gyfer gwneud eich hawliad. Byddwch yn derbyn y dyddiad naill ai drwy e-bost, llythyr neu o fewn y gwasanaeth ar-lein. Bydd y gwasanaeth ar-lein i hawlio'r pedwerydd grant ar gael o ddiwedd mis Ebrill 2021, ac mae'r pedwerydd...
Bydd mesurau rheoli traffig yng Nghaint yn cael eu dileu wrth i fasnach ddychwelyd i lefelau arferol. Bydd Trwydded Mynediad i Gaint yn cael ei dileu o 20 Ebrill 2021, gan fod oedi wedi'i atal diolch i'r ffaith bod cludwyr wedi gwneud y paratoadau angenrheidiol cyn cyrraedd y ffin. Bydd dileu'r Drwydded yn golygu llai o waith papur i gludwyr ac yn gwneud croesi’r ffin yn gyflymach ac yn haws, gan gefnogi ymhellach y llif...
Bydd Wythnos Tech Cymru yn dychwelyd yn yr haf, ar ôl digwyddiad cyntaf llwyddiannus yn 2020. Cynhelir Wythnos Tech Cymru, sy’n dwyn ynghyd gyfranogwyr blaenllaw yn y gymuned dechnoleg fyd-eang, rhwng 21 a 25 Mehefin 2021, fel gŵyl rithwir yn ffrydio bedwar ban byd, mewn amser real. Bydd y digwyddiad am ddim yn ŵyl haf bum diwrnod yn llawn siaradwyr o safon byd o rai o gwmnïau mwyaf arloesol Cymru a thu hwnt, ac i’w...
Bydd FoodEX yn rhan o’r UK Food and Drink Shows, gan ddathlu dychweliad arddangosfeydd ym meysydd datblygu bwyd, siopa bwyd, gweithgynhyrchu, manwerthu arbenigol, cyfanwerthu a gwasanaethau bwyd. Cynhelir FoodEx yn NEC Birmingham rhwng 5 a 7 Gorffennaf, law yn llaw â’r digwyddiadau canlynol: The Ingredients Show Food & Drink Expo National Convenience Show Farm Shop & Deli Show The Forecourt Show Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Foodex.
Sefydlwyd Gwobrau Busnesau Newydd Cymru yn 2015 i gydnabod llwyddiannau unigolion sydd wedi cael syniad gwych, wedi gweld y cyfle a chymryd risgiau i lansio cynnyrch neu wasanaeth newydd. Cynhelir Gwobrau Busnesau Newydd Cymru ers chwe blynedd bellach a dyma’r unig wobrau yn y DU sy’n canolbwyntio’n benodol ar ddathlu llwyddiannau busnesau newydd a chydnabod busnesau ar draws pob sector a phob rhan o Gymru. I wneud cais am y gwobrau, mae’n rhaid i swyddfa...
Mae’r rheini sy’n methu gweithio gartref yn cael eu hannog i gael pecynnau hunan-brofi dyfeisiau llif unffordd wrth iddynt gael eu cyflwyno ar draws Cymru. Bydd y pecynnau profi cyflym hyn ar gyfer y coronafeirws ar gael i’w casglu o safleoedd profi lleol ledled Cymru o ddydd Gwener 16 Ebrill 2021 ymlaen. Gallwch gael pecynnau profi ar gyfer chi eich hun a’ch aelwyd. Caniateir i bob person gasglu 2 becyn o 7 prawf llif unffordd...
Mae Dr Frank Atherton Prif Swyddog Meddygol/Cyfarwyddwr Meddygol, GIG Cymru, wedi cyhoeddi llythyr at sylw darparwyr gwasanaethau cysylltiad agos ynghylch a cadw amgylchedd diogel rhag Covid yn y sector gwasanaethau cysylltiad agos i ddiogelu staff a chleientiaid. Darllenwch y llythyr yn ei gyfanrwydd yma.

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.