BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

2081 canlyniadau

Wrth iddi brysuro ar fusnesau wrth i’r gwyliau agosáu, mae’n rhaid iddyn nhw i gyd gael mesurau ar waith i ddiogelu gweithwyr, ymwelwyr a chwsmeriaid rhag risg coronafeirws (COVID-19). Gydol mis Rhagfyr, bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn parhau i gynnal hapwiriadau ac archwiliadau drwy ffonio ac ymweld â busnesau i sicrhau eu bod yn ddiogel o ran COVID. Yn ystod y galwadau a’r ymweliadau, mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn rhoi...
Trethi a thollau busnesau’r DU: Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi sy’n cwmpasu pa drethi a thollau y gallai busnesau’r UE eu talu wrth fasnachu gyda’r DU o 1 Ionawr 2021. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK. Busnesau o’r UE yn allforio i’r DU: Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi ar gyfer busnesau’r UE i weld beth sydd angen iddyn nhw ei wneud i allforio i’r DU o 1 Ionawr 2021. Am ragor o wybodaeth, ewch i...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi diweddariad i'r Cynllun Rheoli’r Coronafeirws, sy'n adeiladu ar y fframwaith cyfyngiadau ‘goleuadau traffig’ a gyflwynwyd yn wreiddiol ym mis Mai 2020. Mae’r cynllun wedi’i ddiweddaru yn sefydlu pedair lefel rhybudd, sy'n cyd-fynd â'r mesurau y bydd angen iddynt fod ar waith i reoli lledaeniad y feirws yn ystod cyfnod anodd y gaeaf ac i ddiogelu iechyd pobl. Mae’r cynllun yn esbonio hefyd sut a phryd y bydd Cymru’n symud rhwng...
Mae’r ffordd o hysbysebu cyfleoedd i gyflenwi’r sector cyhoeddus yn y DU ar fin newydd. O 23:00 ar 31 Rhagfyr 2020, bydd gwybodaeth yn cael ei chyhoeddi ar gyfleoedd am gontractau sector cyhoeddus yn y DU, ar y gwasanaeth Find a Tender (FTS) newydd: Mae FTS am ddim i’w ddefnyddio ac yn disodli swyddogaeth Tenders Electronic Daily, Cyfnodolyn Swyddogol yr UE (OJEU/TED) ar gyfer caffael yn y DU. Bydd FTS yn gweithio law yn llaw...
Mae busnesau yn y sector Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth yr effeithir arnynt gan y cyfyngiadau coronafeirws diwethaf bellach yn gallu cael gwybod faint y dylent ei dderbyn gan rownd ddiwethaf pecyn cymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau. Y chronfa grant gwerth £180 miliwn yn benodol ar gyfer busnesau yr effeithir arnynt yn y sectorau twristiaeth, hamdden a lletygarwch. O dan y rownd ddiweddaraf o gymorth gan Lywodraeth Cymru, gallai busnes lletygarwch arferol yng Nghymru, sy’n cyflogi...
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd fersiwn wedi’i diweddaru o gynllun rheoli COVID-19 ar gyfer Cymru yn cael ei chyhoeddi’r wythnos nesaf. Mae’r cynllun diwygiedig wedi’i lywio gan ddadansoddiad diweddaraf ein harbenigwyr gwyddonol a meddygol a Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau (SAGE). Mae hefyd wedi’i lywio gan y profiad mewn rhannau eraill o’r DU. Mae'r cynllun yn nodi pedair lefel rhybudd – o lefel rhybudd 1 i lefel rhybudd 4...
Ymunwch â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) am ddwy weminar rhad ac am ddim er mwyn helpu’ch busnes i baratoi ar gyfer diwedd cyfnod pontio y DU. Cynhelir y digwyddiad cyntaf ar-lein ddydd Mercher 16 Rhagfyr 2020, ac yna ail ddigwyddiad ddydd Mercher 20 Ionawr 2021. Bydd y ddau ddigwyddiad ar agor o 10 y bore er mwyn rhoi digon o amser i chi ymuno – ac yn para o 10:15 tan 1pm. Bydd...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynlluniau i gynnal cystadleuaeth Cronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol arall yn ystod Gwanwyn 2021. Mae hyn yn deillio o’r ymateb da a gafwyd i ffenestr Cam 1 y gystadleuaeth a ddaeth i ben 28 Hydref 2020. Mae trefn cystadleuaeth y Gwanwyn yn debygol o fod yn debyg i’r ffenestr flaenorol, a bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu maes o law. Cyhoeddir enillwyr Cam 1 y gystadleuaeth a ddaeth...
Fel rhan o gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i gefnogi’r gymuned fusnes rhag effaith COVID-19, mae’r moratoriwm ar fforffedu prydles am beidio â thalu rhent, a oedd i ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2020, wedi cael ei estyn tan 31 Mawrth 2021. Er y dylai busnesau barhau i dalu rhent pryd bynnag y bo hynny’n bosibl, bydd y mesur diweddaraf yn sicrhau nad oes unrhyw fusnes yn cael ei droi allan o’i safle os yw’n...
Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn parhau i helpu sefydliadau a busnesau i baratoi ar gyfer pob sefyllfa a bydd yn datblygu adnoddau ar gyfer cymorth pellach. Cadwch lygaid ar dudalen ‘What’s New’ yr ICO i gael y canllawiau diwygiedig a’r adnoddau diweddaraf wrth i 1 Ionawr 2021 agosáu. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr ICO. Darllenwch Gwestiynau Cyffredin yr ICO am atebion i gwestiynau ar ddiogelu data ar ddiwedd y pontio, ac...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.