BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

2101 canlyniadau

Mae’r Rheoleiddiwr Pensiynau wedi parhau i fonitro pensiynau gydol argyfwng y pandemig, gan sicrhau eu bod yn cefnogi cyflogwyr a’r rhai sy’n cynilo yn ystod y cyfnod anodd hwn. Efallai bod eich busnes wedi newid yn sgil COVID-19, ond nid yw eich cyfrifoldebau tuag at eich staff wedi newid. Mae’n rhaid i chi: Barhau i asesu a rhoi pensiwn i staff cymwys Parhau i wneud y cyfraniadau cywir ar amser Cwblhau eich dyletswyddau ail-ymrestru a’ch...
Canllawiau ar gyfer Cludwyr a Gyrwyr Masnachol: Mae’r Llawlyfr ar gyfer Cludwyr wedi’i gyhoeddi fel siop un stop ar gyfer gwybodaeth allweddol am sut i baratoi cerbydau a’r cynnyrch a gludir ganddynt er mwyn parhau i deithio’n ddirwystr ar draws y ffin a helpu i leihau unrhyw amharu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan GOV.UK. Gwybodaeth am Ddiogelwch Trwyddedau ar ôl 1 Ionawr 2021: Mae gwybodaeth wedi’i chyhoeddi am ddiogelwch trwyddedau mewnforio ac...
Dyma'r dyddiadau postio olaf a argymhellir i bob gwasanaeth ar gyfer cyfeiriadau yn y DU: Dydd Gwener 18 Rhagfyr 2020 – 2il Ddosbarth ac 2il Ddosbarth y Llofnodir Amdano Dydd Llun 21 Rhagfyr 2020 – Dosbarth 1af a Dosbarth 1af y Llofnodir Amdano a Royal Mail Tracked 48* Dydd Mawrth 22 Rhagfyr 2020 – Royal Mail Tracked 24* Dydd Mercher 23 Rhagfyr 2020 – Special Delivery Guaranteed Nid yw gwasanaeth *Royal Mail Tracked 24 a...
Mae gwybod sut i adnabod arwyddion peryglus sylweddau niweidiol a sut i reoli sylweddau o’r fath yn ddiogel yn allweddol i ddiogelu gweithwyr rhag niwed. Mae'r Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd yn ei gwneud hi’n ofynnol i gyflogwyr reoli sylweddau a allai achosi niwed yn y gweithle. Mae’r poster Trafod Cemegau yn Ddiogel y Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd yn darparu canllawiau hanfodol ar sut i drin a thrafod cemegau’n ddiogel yn y...
Mae Cronfa Gweithwyr Llawrydd Cam 3 yn cau ar ddydd Llun 7 Rhagfyr 2020 am 5yp. Mae y gronfa’n cefnogi gweithwyr llawrydd sy’n gweithio yn y meysydd isod: Y Celfyddydau Digwyddiadau Celf a Threftadaeth Digwyddiadau nad ydynt yn gysylltiedig â chwaraeon sydd wedi’u heffeithio’n sylweddol gan y Pandemig Diwydiannau Creadigol Diwylliant a threftadaeth Byddwn yn cefnogi gweithwyr llawrydd sy'n gweithio mewn digwyddiadau sydd wedi cael eu heffeithio’n sylweddol gan y Pandemig, gan gynnwys y rhai...
Os ydy eich sefydliad yn anfon gwybodaeth bersonol i wledydd yn yr UE, neu’n derbyn gwybodaeth ganddynt, mae’n rhaid i chi weithredu nawr i wneud yn siŵr bod y llif data yn gallu parhau’n gyfreithlon. Mae’n bwysig eich bod yn gwneud yn siŵr bod eich sefydliad wedi paratoi’n briodol ar gyfer pob senario ymadael, pa un ai a ydych chi’n unig fasnachwr neu’n fusnes bach neu’n sefydliad rhyngwladol mawr. Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi...
Gwiriwch pa ddatganiadau y mae angen eu gwneud ar gyfer nwyddau y byddwch chi'n dod â nhw i mewn neu'n eu derbyn i'r DU o 1 Ionawr 2021 Os ydych chi'n fusnes yn y DU sy'n dod â nwyddau i mewn neu'n eu derbyn i Brydain Fawr neu Ogledd Iwerddon, gwiriwch pa ddatganiadau y gallai fod angen eu gwneud drwy fynd i wefan GOV.UK Gwiriwch pa ddatganiadau y mae angen eu gwneud ar gyfer nwyddau...
Bydd y gyfres hon o weminarau Chwarae Teg yn eich helpu i ddarganfod sut beth yw cynnal eich busnes eich hun mewn gwirionedd, dod o hyd i syniadau a magu’r hyder i wneud hynny, a sicrhau eich bod wedi cael trefn ar yr ochr ariannol a’r camau ymarferol i ddechrau arni. Mae’r gweminarau yn cynnwys: ​ Allwn i fod yn fenyw fusnes? Dydd Mercher 9 Rhagfyr 2020, rhwng 11am a 1pm. Defnyddiwch y ddolen ganlynol...
Mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wedi cyhoeddi set o gyfyngiadau newydd wedi’u targedu ar gyfer y sectorau lletygarwch a hamdden yn ogystal â phecyn cymorth gwerth £340m. Mae’r mesurau newydd yn cael eu cyflwyno wrth i achosion o’r coronafeirws gyflymu yng Nghymru unwaith yn rhagor, gan erydu’r cynnydd a gafodd ei wneud yn ystod y cyfnod atal byr yn ddiweddar. O ddydd Gwener, bydd tafarndai, bariau, bwytai a chaffis yn gorfod cau erbyn 6pm...
Gwybodaeth am sut i wneud taliadau TAW a ohiriwyd rhwng 20 Mawrth a 30 Mehefin 2020. Gallwch: dalu’r TAW gohiriedig yn llawn ar 31 Mawrth 2021 neu cyn hynny optio i mewn i’r cynllun talu newydd ar gyfer TAW gohiriedig adeg lansio’r cynllun yn 2021 cysylltu â CThEM os oes angen rhagor o gymorth arnoch i dalu Gwybodaeth am sut i dalu'ch TAW gohiriedig. Os ydych chi eisiau optio i mewn i’r cynllun talu newydd...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.