BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

2121 canlyniadau

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chanllawiau i fusnesau twristiaeth a lletygarwch. Mae’r canllawiau’n ceisio helpu cyflogwyr, gweithwyr cyflogedig a phobl hunangyflogedig sy’n gweithio yn y sectorau twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru i weithredu’n ddiogel yn ystod y pandemig COVID-19 a chadw ymwelwyr yn ddiogel. I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan LLYW.Cymru.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd fisâu gweithwyr iechyd proffesiynol a’u dibynyddion teuluol yn cael eu hymestyn am flwyddyn. Bydd yr estyniad yn berthnasol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweithio yn y GIG a’r sector iechyd a gofal annibynnol. Bydd eu fisâu yn cael eu hymestyn am flwyddyn, heb iddynt orfod talu unrhyw ffioedd, gan gynnwys y Gordal Iechyd Mewnfudo. Bydd angen i’r rhai sy’n elwa ar yr estyniad hwn lenwi ffurflen...
Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn gwybod bod rhai cyflogwyr yn talu eu gweithwyr yn gynt nag arfer dros gyfnod y Nadolig, er enghraifft, efallai fod y busnes yn cau ar gyfer y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Os ydych chi'n talu'n gynnar, nodwch eich dyddiad talu arferol ar eich Cyflwyniad Taliad Llawn (FPS). Er enghraifft: os ydych chi'n talu ar 18 Rhagfyr 2020 ond eich dyddiad talu arferol yw 31 Rhagfyr 2020, nodwch y...
Mae’r dyddiad y gallwch chi hawlio ad-daliadau TAW wedi’i ddiweddaru: Ad-daliadau TAW o wledydd yr UE o 1 Ionawr 2021: Gallwch chi barhau i ddefnyddio system ad-daliadau TAW yr UE i hawlio ad-daliad TAW ar dreuliau a gafwyd cyn 1 Ionawr 2021 yn aelod-wladwriaethau’r UE hyd at 11pm ar 31 Mawrth 2021. I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK Ad-daliadau TAW y DU o 1 Ionawr os ydych chi’n fusnes yn yr UE...
Mae ymgynghoriad wedi’i lansio gyda’r nod o roi mwy o bŵer i’r Comisiynydd Busnesau Bach fel y gall gefnogi busnesau a datrys problemau taliadau hwyr. Mae cynigion newydd wedi’u hamlinellu gan Lywodraeth y DU i sicrhau bod busnesau bach yn y DU yn cael eu talu’n brydlon Mae’r ymgynghoriad yn ceisio cael safbwyntiau ar rinweddau: cryfhau gallu’r Comisiynydd Busnesau Bach i gynorthwyo busnesau bach drwy ddarparu mecanweithiau effeithiol iddynt gael iawndal, mewn perthynas â thaliadau...
Mae tymor y Nadolig yn cael effaith fawr ar fwyafrif busnesau a gweithwyr y Deyrnas Unedig. Dyma amser pan fydd mwy o alw am gynnyrch a gwasanaethau a nwyddau i’w gwerthu mewn rhai busnesau. Mae eraill yn wynebu cyfnod tawel neu’n cau efallai dros y gwyliau. Eleni, mae Dydd Nadolig, 25 Rhagfyr 2020, ar ddydd Gwener a Gŵyl San Steffan, 26 Rhagfyr 2020, ar ddydd Sadwrn, daw 'amnewid yn ystod yr wythnos yn wyliau banc...
Mae StoryLab yn ddigwyddiad arloesi agored sy'n ariannu cynyrchiadau prototeip mewn perthynas ag adrodd straeon ymgolli a'r genhedlaeth nesaf, gan gysylltu BBaChau ag ymchwilwyr prifysgol a sefydliadau ar raddfa fawr. Mae StoryFutures a'r Roald Dahl Marvellous Children’s Charity wedi dod at ei gilydd i gynnig cyfle i gwmnïau creadigol yn rhanbarth StoryFutures gydweithio ar brototeip Ymchwil a Datblygu Realiti Estynedig neu Gymysg i archwilio sut y gall adrodd straeon ymgolli wella proses 'pontio gofal’. Cwmnïau...
Mae’r Comisiwn Elusennau, y rheoleiddiwr elusennau yng Nghymru a Lloegr, wedi lansio cyfres newydd o ganllawiau syml, hawdd i’w deall, gyda’r nod o helpu ymddiriedolwyr i redeg eu helusennau yn unol â’r gyfraith. Mae’r canllawiau newydd yn trafod pum elfen allweddol rheoli elusen – sef ‘maes llafur craidd’ sy’n ymdrin â’r hanfodion y mae rheoleiddiwr yn disgwyl i bob ymddiriedolwr fod yn ymwybodol ohonynt. Maent yn egluro hanfodion: trosolwg ariannol cyflawni diben elusen gwneud penderfyniadau...
Mae’r cyfnod pontio yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2020. Ar 1 Ionawr 2021, bydd newidiadau i gyfraith eiddo deallusol y DU er mwyn sicrhau pontio llyfn o systemau eiddo deallusol (IP) yr UE. Mae gwybodaeth allweddol ar gael nawr ar gyfer cwsmeriaid a defnyddwyr IP ynghylch sut bydd y system IP a’r Swyddfa Eiddo Deallusol yn gweithredu ar ôl y cyfnod pontio. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Covid-19 wedi rhoi rhaglen o gymorth cyflogaeth a sgiliau ar waith i helpu pobl i ddychwelyd i’r gwaith. Mae rhan o’r rhaglen hon yn cynnwys cefnogaeth ychwanegol i unigolion sy’n ystyried bod yn hunangyflogedig. Yn ogystal â’r gwasanaeth cychwyn busnes presennol, mae grant ar gael i gefnogi unigolion di-waith sy’n wynebu mwy o rwystrau economaidd wrth ddechrau busnes. Bydd y grant dewisol hwn yn helpu hyd at 600 o unigolion...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.