BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

2161 canlyniadau

Mae ein Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) wedi helpu mwy na 13,000 o fusnesau gyda mwy na £300 miliwn o gymorth. Mae hefyd wedi helpu i ddiogelu mwy na 100,000 o swyddi a allai fod wedi'u colli fel arall. Yr wythnos diwethaf agorwyd Cam 3 y Gronfa i geisiadau gyda'r cylch cymorth diweddaraf hwn yn rhyddhau £300 miliwn pellach i fusnesau yng Nghymru i'w helpu i ddelio â heriau economaidd y cyfnod atal byr presennol hwn...
Ymunwch â Chwarae Teg yn fyw i glywed gan Nia Godsmark, Partner yn Peter Lynna and Partners Solicitors a Caroline Mathias, Partner Cyflogwr yn Chwarae Teg yn sôn am sut y gallwch chi gefnogi arferion crefyddol yn eich gweithle a meithrin amgylchedd gwirioneddol gynhwysol. Cynhelir y weminar ar 18 Tachwedd 2020 rhwng 10am ac 11am, gallwch gadw’ch lle yma.
Mae’r DU wedi gadael yr UE, ac mae’r cyfnod pontio wedi Brexit yn dod i ben eleni. Defnyddiwch restr wirio 6 phwynt Llywodraeth y DU i ddeall beth sydd angen i chi ei wneud cyn 1 Ionawr 2021 os ydych chi’n gweithio yn y sector twristiaeth. Mae’r rhestr wirio yn cynnwys: Ymweld ag Ewrop Ymweld â’r DU Eich gweithwyr Eich data Eich sefydliad a’ch gwasanaethau Symud nwyddau Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV‌‌.UK.
Bydd set newydd a symlach o reolau cenedlaethol yn dod i rym unwaith y daw cyfnod atal byr Cymru i ben am 00:01 ddydd Llun 9 Tachwedd 2020. Eu nod yw diogelu iechyd pobl a darparu cymaint o ryddid â phosibl tra mae’r feirws yn dal i gylchredeg. Bydd y mesurau cenedlaethol newydd yn cynnwys y canlynol: Bydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol o ddau fetr a gwisgo masg wyneb mewn mannau cyhoeddus caeedig...
Gyda dim ond wythnos ar ôl cyn dyddiad cau Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 am ganol dydd ar 13 Tachwedd, peidiwch â cholli’r cyfle i ymgeisio ac ymfalchïo yn eich llwyddiant! Mae’r Gwobrau’n ddathliad o fusnesau Cymru sydd wedi ymrwymo i gefnogi eu gweithlu drwy brentisiaethau. Mae’r cynnig cyfle ardderchog i’r rhai sydd ar y rhestr fer a’r enillwyr dynnu sylw at eu cyfraniad at brentisiaethau mewn amrywiol gyhoeddiadau ac ar-lein. Cyflwynwch eich cais nawr! Am...
Cael mynediad at gymorth am ddim gan arbenigwyr a helpu’ch busnes i ddod dros effaith y Coronafeirws. Mae’r Sector Gwasanaethau Proffesiynol a Busnes ac Enterprise Nation, gyda chefnogaeth yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, wedi cydweithio i gynnig cyngor am ddim i fusnesau bach a chanolig i’w helpu i ddod dros effaith y Coronafeirws. Bydd y cynnig ar gael tan 31 Rhagfyr 2020. Mae cyrff proffesiynol a chymdeithasau masnach yn trefnu arbenigwyr yn eu...
O 6 Ebrill 2021, mae newidiadau pwysig i’r rheolau gweithio oddi ar y gyflogres. Mae CThEM wedi cyhoeddi canllawiau cymorth i helpu’ch busnes i baratoi. Mae angen i chi baratoi ar gyfer y newidiadau os ydych chi’n: Sefydliad canolig neu fawr o du allan i’r sector cyhoeddus sy’n defnyddio contractwyr sy’n gweithio drwy eu cyfryngwr eu hunain Asiantaeth gyflogaeth sy’n cyflenwi contractwyr sy’n gweithio drwy eu cyfryngwr eu hunain Awdurdod cyhoeddus – bydd newidiadau ychwanegol...
Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am eich barn ar Orchymyn Cymru Amaethyddol 2021. Mae hyn yn cynnwys: strwythur gradd cyflog o'r newydd cyfraddau a lwfansau isafswm cyflog diweddariadau i ddiffiniadau o lwfansau a gweithwyr amaethyddol myfyrwyr Cyflwynwch eich sylwadau yma erbyn 20 Tachwedd 2020
Mae busnesau ar hyd a lled y DU yn cael cymorth ariannol ychwanegol fel rhan o gynllun Llywodraeth y DU ar gyfer cam nesaf ei hymateb i bandemig y coronafeirws. Bydd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws - a elwir hefyd yn y cynllun Ffyrlo - yn parhau ar agor tan fis Mawrth 2021, a bydd gweithwyr cyflogedig yn derbyn 80% o’u cyflog cyfredol am yr oriau nad ydynt yn gweithio, hyd at...
O 1 Ionawr 2021, bydd gan y DU gyfrifoldeb llwyr am ddyfodol moroedd a diwydiant pysgota’r DU ac mae angen i fusnesau fod yn barod am newid. Mae’r Sefydliad Rheoli Morol (MMO) yn cefnogi busnesau i baratoi nawr drwy lunio cyfres o ganllawiau i gyfeirio at y camau y gallai pysgotwyr masnachol ac allforwyr bwyd môr fod angen eu cymryd i ddal ati i fasnachu. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.